Gwirfoddolwyr yn ffynnu ar gyrsiau garddio Tir Coed

Written by Tir Coed / Dydd Gwener 13 Mai 2022

Rydym eisoes wedi cyrraedd canol ein cyrsiau Tyfu Organig a Garddio Bywyd Gwyllt ac yn dilyn egwyl dros y Pasg, mae ein dau grŵp yn ôl yn y gerddi mor frwdfrydig ag erioed.

Mae’r ardd yn Llanfarian lle mae’r hyfforddeion Garddio Bywyd Gwyllt yn torchi llewys yn dechrau egino – mae’r blodau gwyllt wedi llamu ymlaen, gyda charped o flodau’r neidr, ffacbys a meillion yn dechrau blodeuo. Mewn rhannau eraill mae’r clychau’r gog cynhenid wedi eu gwasgaru o gwmpas y gwrychoedd a chyrion y coetir ac mae’r rhain, ynghyd â’r coed sy’n blodeuo yn denu diddordeb nifer fawr o beillwyr yn yr ardd.

Bu creu pwll bach yn ychwanegiad gwych at y safle, yn arbennig am fod ein hyfforddeion yn dysgu am fanteision pyllau a ffynonellau dŵr eraill i fywyd gwyllt. O fewn ychydig wythnosau mae’r pwll wedi trawsnewid o flaen ein llygaid ac mae’n awr yn ferw o fywyd, gyda chwilod dŵr a phenbyliaid yn chwilio am y mannau cysgodol ar ddyddiau heulog, cynnes.


Erbyn hyn mae gan ein hyfforddeion rywbeth i edrych ymlaen ato wrth i ni dynnu’r menig garddio a gadael y rhawiau er mwyn cael defnyddio llifiau a morthwylion i lunio blychau adar ac ystlumod ar gyfer y safle. Bydd y rhain yn cael eu gosod ar y coed mwyaf, aeddfed, yn agos at y fynedfa i’r ardd a gobeithio y byddant yn denu ystlumod ac adar bach fel y titw mawr a’r titw tomos las i nythu.  Dyma’r tro cyntaf i rai o’r grŵp ddefnyddio offer llaw - fel Hina, sydd wedi cymryd at y gwaith yn naturiol a dysgu’n rhwydd, a Ruby, sydd wrth ei bodd yn dysgu sgiliau newydd ac wedi mwynhau bod yn saer am y diwrnod.  Rydym yn siŵr y bydd yr ystlumod a’r adar yn gwerthfawrogi eu hymdrechion a’u cartrefi newydd hefyd. 

Dyma’r amser o’r flwyddyn pan fydd ychydig o law a rhywfaint o heulwen yn gweld pethau’n tyfu’n gyflym iawn, felly rydym i gyd yn edrych ymlaen at gael gweld beth fydd yr ardd yn ei gynnig i ni'r wythnos nesaf.


Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed