Gwyliwch Goedwrych Cymru, mae’r Goedwig Hir ar y ffordd….
Written by Tir Coed / Dydd Iau 28 Medi 2017
Mae prosiect y Goedwig Hir bellach ar y gweill ar ôl ei lansio’n swyddogol yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ddydd Mercher diwethaf (27 Medi). Croesawodd Cadwch Gymru’n Daclus mewn partneriaeth â Choed Cadw, sefydliadau tebyg, gan gynnwys Tir Coed, i ddathlu dechrau prosiect tair blynedd gyffrous.
Datblygwyd Prosiect y Goedwig Hir gan Gadwch Gymru’n Daclus mewn partneriaeth â Choed Cadw, gyda chymorth gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a Sefydliad Esmee Fairbairn. Gyda’i gilydd, byddant yn gweithredu’n ymarferol – gan recriwtio miloedd o wirfoddolwyr i blannu 100,000 o goed a gwella tua 120,000m o goedwrych.
Mae Prosiect y Goedwig Hir yn ceisio gwneud coedwrych yn bwysig unwaith eto. Ei nod yw codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd coedwrych a’u defnydd, amlygu eu gwerth hanesyddol ac arolygu eu cyflwr. Mae’r prosiect yn gweithredu’n ymarferol ledled Cymru gan weithio gyda pherchnogion tir a grwpiau cymunedol i reoli, gwella ac ehangu coedwrych, trwy hyfforddiant a gweithredu gwirfoddol. Mae’r prosiect hefyd yn bwriadu datblygu ap arolygu coedwrych fydd yn creu cofnodion fydd yn amlygu cyflwr presennol coedwrych ar draws Cymru.
Dywedodd Richard Bellamy, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru:
“Pan mae pobl yn ystyried ystyr ‘treftadaeth’, maent yn aml yn meddwl am adeiladau urddasol fel cestyll ac ystadau helaeth. Ond mae Cymru’n ddigon ffodus i gynnwys tirwedd ac amgylchedd naturiol prydferth hefyd sydd yn gartref i rywogaethau prin a gwerthfawr. Trwy ariannu prosiectau treftadaeth naturiol fel y Goedwig Hir, ein gobaith yw y bydd mwy o bobl yn sylweddoli bod gofalu am ein tirwedd - gan ddechrau yn ein gerddi cefn ein hunain efallai - yr un mor bwysig.”
Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
“Mae coedwrych yng Nghymru wedi bod yn rhan bwysig o wneuthuriad ein tirwedd ers canrifoedd. Fodd bynnag, nid ydynt yn adnodd sy’n cael eu gwerthfawrogi ac maent mewn perygl difrifol o gael eu hesgeuluso, eu niweidio a’u dileu - ac mae bellach yn hanfodol ein bod yn gweithredu. Rydym yn llawn cyffro o fod yn gweithio gyda Choed Cadw a gwirfoddolwyr ar draws Cymru i sicrhau bod ein coedwrych yn cael eu cynnal a’u parchu am genedlaethau i ddod.