Croeso Mentor Powys
Written by Tir Coed / Dydd Mercher 21 Mawrth 2018
Shwmae, Harry Ireland dw i ac rwyf wedi fy mhenodi'n Mentor Powys i Tir Coed yn ddiweddar. Byddaf yn gweithio yng Nghwm Elan wrth ochr Anna, Cydlynydd Gwirfoddoli a Hyfforddiant Elan Links, i gefnogi prosiectau Elan Links yng Nghwm Elan.
Mae gen i gefndir mewn rheoli coetir ac angerdd am yr awyr agored a chrefftau traddodiadol a'r hapusrwydd a'r boddhad sy'n dod gydag ef.
Dros y 4 mlynedd diwethaf, rwyf wedi bod yn gweithio fel ceidwadwr yng Ngwm Elan, ac ynfy amser yno bues yn gweithio'n agos at Tir Coed i hwyluso'r cyrsiau. Roeddwn yn ddigon lwcus i allu mynychu un o'r cyrsiau 12 wythnos a redwyd gan Tir Coed a derbynnais brofiad uniongyrchol o ba mor hwyliog a wybodus gall y cyrsiau fod.
Rydw i yma i helpu nodi'r cwrs neu'r weithgaredd gywir i'r cyfranogwyr ac i gynorthwyo gyda'r camau nesaf yn eu dyfodol unwaith iddynt gwblhau eu hamser gyda ni, p'un ai yw'n addysg bellach, gwirfoddoli neu gyflogaeth.

