Croeso i'r Mentor Powys Newydd!
Written by Tir Coed / Dydd Iau 10 Ionawr 2019
Shwmae, Gayle dw i a dwi’n gyffroes iawn i ddechrau fy swydd fel Mentor Powys. Bydda i yn recriwtio ac yn cefnogi hyfforddeion, cyn, yn ystod, ac ar ôl iddynt fynychu cyrsiau Tir Coed sy’n cael eu cynnal mewn partneriaeth gyda phrosiect Elan Links. Fy nod yw helpu ein hyfforddai i wneud y mwyaf o’u profiad ac i gyrraedd eu huchelgeisiau, p’un ai yw hynny mor syml a bod yn yr awyr agored, neu ddilyn gyrfa yn un o’r nifer diwydiannau awyr agored sydd â chyfleoedd i’w cynnig. Rwyf wedi fy lleoli yng Nghwm Elan sy’n syfrdanol ac yn ardal o brydferthwch naturiol rhagorol, a dwi’n gorfod pinsio fy hun bob bore gan fy mod i’n cael galw’r lle hwn yn swyddfa i mi.
Dw i wedi gwnued tipyn o waith gweinyddol yn y gorffenol ac wedi gweithio’n bennaf yn y trydydd sector gyda prosiectau sy’n cefogi teuluoedd sy’n mynd trwy newid, yn ogystal â’r heddlu a’r GIG. Cyn geni fy merch, roeddwn i’n rhedeg cwmni ffotograffiaeth a dwi’n aml y tu ô li lens y camera’n tynnu lluniau o bopeth. Tu allan i’r gwaith rwy’n caru bod yn yr awyr agored ac yn heini, rwy’n farchogwr brwd ac yn Rasiwr Beic Mynydd Disgynnol, ac yn gerddwr. Gan fy mod wedi byw yng Nghymru rhan fwyaf o’m mywyd, rwy’n caru’r cyfleoedd mae Tir Coed yn eu cynnig i bobl leol ac yn filch iawn o fod yn gwneud y swydd sy’n cefnogi’r economi wledig a’r trigolion.