Croeso i'r Goedwig - Ceredigion
Written by Tir Coed / Dydd Iau 22 Tachwedd 2018
Mae Cwrs Croeso 5 diwrnod Ceredigion newydd ddod i ben.
Cynhaliwyd y cwrs yn ein coedwig 53 erw, Coed Tyllwyd ger Llanfarian. Cyflwynwyd y cwrs gan ein tiwtor hynod wybodus, Rob Smith gyda chefnogaeth Anna Thomas.
Cyflwynwyd y 5 i’r goedwig gyda thaith o gwmpas y goedwig, y gweithdai a’r caban. Fe wnaethant ddysgu’r gwahanol rywogaethau o goed ac enillwyd peth dealltwriaeth o ddiogelwch y safle a sut y mae’r goedwig yn cael ei reoli.
Yn ystod y dyddiau cyntaf, fe wnaeth yr hyfforddai cyfrannu at asesiad risg ac yna rhoi’r hyn a ddysgon ar waith drwy glirio llwybrau o lystyfiant fel drysi a dail poethion ar gyfer mynediad cyhoeddus. Gyda ffocws ar iechyd a diogelwch fe ddysgon nhw sut i gwympo a thorri coed bach gyda bwyell a llif fwa a sut i symud pentwr o goed yn barod i dymheru.
Cafwyd hefyd gyflwyniad i waith coed irlas a defnyddio’r coed yr oeddent wedi cwympo i ddatblygu sgiliau fel hollti, cerfio gyda haearn hollti a bwyell i greu blocyn i’w ddefnyddio ar y turn polyn. Dros y diwrnodau diwethaf, fe wnaeth pob person weithio ar brosiect coed irlas unigol, treuliwyd amser yn cerfio stolion un goes neu dair coes a chanwyllbrennau i fynd adref gyda nhw. Fe wnaeth bawb fwynhau’r 5 diwrnod a gorffennwyd yr wythnos yn hapus gyda phawb yn derbyn tystysgrifau cyrhaeddiad.