Beth dych chi'n hoffi am weithio gyda Tir Coed? (2)
Written by Tir Coed / Dydd Gwener 06 Medi 2019
Mae gweithio i Tir Coed yn ‘neud i fi teimlo’n rhan o’r datrysiad. Mae pwysau’r byd modern yn gweithio unigolion i’r ymylon, a’n amgylchedd naturiol gwerthfawr hefyd. Drwy ddeall rheolaeth tir da, ymarfer sgiliau traddodiadol a gweithio gyda deunyddiau naturiol, mae pobl yn tiwnio i rywbeth greddfol, rhywbeth a etifeddwyd o’n cyndadau hynafol. Mae byddaru’r hysbysebion a’r obsesiynau enwogion yn ymsuddo; ac rydych yn dechrau sylwi ar gân y radar, y gwynt yn y dail, a’r sgwrsio. Mae rhythm cyson yr offer llaw yn raddol llunio’r tirlun, y pren y mae’n rhoi i ni, a’r unigolion sy’n eu defnyddio.
Rwy’n mwynhau bod allan yn y goedwig, yn sgwrsio gyda’r hyfforddai ac yn gweithio wrth eu hochr. Rwy’n gwrando are u straeon ac yn gweld y gwahaniaeth mae sylwi arnynt yn ei wneud, ac rydych chi’n teimlo’n rhan o rywbeth defnyddiol. Cymryd y cyfleoedd i ail-adeiladu eu hyder, a gwenud newid go iawn yn eu bywydau.
Mae problemau iechyd meddwl yn cynyddu’n ddramatig yn y byd modern, dw i’n meddwl bod pawb yn dioddef gyda’i iechyd meddwl ar adegau o’u bywyd. Mae cael eich prosesu gan system amhersonol sydd wedi cael ei hysgwyd gan lymder yn frawychus ac yn aml yn llethol. Mae derbyn yn gyson a pheidio cael eich gofyn i roi yn ôl yn erydu bywydau pobl. Mae’r teimladau o ofn, euogrwydd a methiant ym mhob man. Mae cydweithio mewn grŵp, yn ein hamgylchedd naturiol, gydag ymdeimlad cyffredin o bwrpas, yn newid hyn yn gynnil ond yn bwerus. O bryd i’w gilydd gwelwch frigiadau o optimistiaeth, hyder a hunanwerth heintus, a gwerthfawrogiad o'i gilydd ac o natur, fel yr haul yn dychwelyd ar ôl gormod o ddyddiau tywyll o law.