Gweithgareddau Coetir ar gyfer Tîm Plant Anabl

Written by Tir Coed / Dydd Mercher 07 Awst 2019

Gwnaeth 17 bobl ifanc fwynhau gweithgareddau a gemau natur wedi'u cynllunio gan Jenny, yn cychwyn gyda pawb yn mynd am dro trwy'r coetir i’r tŷ crwn a darganfod eitemau ar y daith. Gwnaethon nhw fwynhau dechrau tan efo streicwyr a hefyd roeddent llawn boddhad wrth goginio ar y tan tra'r oedd eraill yn sgrialu'r llwybrau, yn ‘neud gweithgareddau, gemau a sialens tîm.

Aeth rhai o’r grŵp ati i drio naddu a chreu cyllell menyn a ffonau. Daeth y diwrnod i ben gyda gem o guddio a darganfod gyda'r plant ifanc yn neidio allan o du ôl i goed ac yn darganfod llefydd i guddio yn ôl i’r maes parcio!                         

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed