Gwelliannau Coetir gan Wirfoddolwyr

Written by Tir Coed / Dydd Llun 29 Gorffennaf 2019

Gan weithio gyda brwdfrydedd a chreadigrwydd, mae yna amrywiaeth o dasgau wedi cwblhau. Mae gwelliannau sylweddol tu fewn ac o amgylch y caban; mae'r tu mewn i'r to sy'n gollwng wedi cael ei selio ac erbyn hyn mae gennym fwrdd mwy a lle eistedd mwy cyfforddus.

Y tu allan i gegin awyr agored mae gwaith ar y sinc ac arwyneb wedi cychwyn. Ar gefn y caban rydym wedi gosod lander sy'n bwydo i gasgen ddŵr uwch fel y gellir casglu dŵr glaw o'r to a'i ddefnyddio ar gyfer golchi llestri.

Mae mynediad o gwmpas yr ardal hefyd wedi gweld gwelliannau gydag ychwanegiad o raff a rheiliau llaw bren ar hyd llwybrau a ddefnyddir yn aml - a gwifren nad yw'n llithro yn cael ei hychwanegu at ymylon grisiau.

  

Mae ein cyfranogwyr newydd wedi bod yn dod i adnabod gweddill y grŵp wrth ddatblygu sgiliau newydd a chyfrannu at y swyddi parhaus. Mae gennym grŵp gwych o wirfoddolwyr cyfeillgar ac rydym yn ddiolchgar iawn am eu cyfraniad gwerthfawr i estheteg, mynediad a diogelwch y safle.

 

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed