Creu cyfleuster cymunedol
Mae gweithgarwch Tir Coed yn adfywio tir a choetiroedd mewn amryw o ffyrdd!
Mae gwaith cyfranogwyr Tir Coed yn gwella iechyd a bioamrywiaeth coetiroedd, yn gwella mynediad ac yn gosod cyfleusterau megis meinciau picnic a byrddau, arwyddion, llwybrau a llochesau. Gyda'i weithgareddau estyn allan mae Tir Coed yn galluogi pobl o bob cefndir i fwynhau'r coedlannau yn eu cynefin: Adnodd cymunedol i'w fwynhau gan bawb.
Dwi'n cerdded gyda ffon, ac yn cerdded fy nghi yn y goedlan hon bob dydd. Hyd nes i Tir Coed wneud y gwaith ar y llwybrau a'r bont newydd 'doeddwn i'n methu cerdded yr holl ffordd, ond nawr 'dwi'n medru crwydro yn llawer pellach i mewn i'r goedlan a 'dw innau a'r ci yn hapus iawn!
Un o drigolion lleol Llanidloes