Gardd Foothold Cymru (Tyfu)

Lleoliad:

Burry Road, Llanelli. SA15 2DP. (gyferbyn Lidl). Cyfeiriad Grid SS511984.

What3Words: parked.engaging.blind

Disgrifiad:

Mae gardd gymunedol Foothold Cymru yn ofod tyfu sydd wedi'i gyddio ger calon Llanelli. Anogir gwirfoddolwyr i ddod draw i arddio, neu eu gwahodd i ymlacio yn yr ardal les.

Sut i gyrraedd yno:

Mae'r safle gyferbyn â Lidl ar The Avenue, Llanelli, SA15 2DP. Yn dod o'r gylchfan, dyma'r troad cyntaf i'r chwith cyn cyrraedd Lidl ar y dde.

Mae gwasanaethau bws amrywiol yn aros y tu allan i'r safle.

Cyfleusterau:

Toiledau, twnnel polythen, tŷ gwydr, ystafell ddosbarth dan do, sied offer, pwll, perllan gymunedol, maes parcio, dŵr rhedeg. Mae yna nifer o fannau eistedd yn yr ardd a dan do. Mae'r gofod tyfu yn cynnwys gwelyau uchel, y mae Tir Coed yn eu defnyddio i ddysgu ein cwrs garddwriaeth gynaliadwy. Mae yna hefyd welyau cymunedol ar gael i wirfoddolwyr.

Signal Ffôn: Da

Mynediad Cyhoeddus: Gall unrhyw un sydd am gymryd rhan yn y safle gysylltu â Foothold i ddod yn wirfoddolwr

Perchennog y Safle:

Elusen cyfiawnder cymdeithasol wedi'i lleoli yn Llanelli yw Foothold Cymru.

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed