KESS 2

Mae Tir Coed yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth i orchwylio prosiect Doethuriaeth sy’n ymchwilio i’r potential therapiwtig coedwigoedd i wella iechyd, lles ac ymgysylltiad cymdeithasol o fewn cymunedau yng Nghymru.

Ariennir y prosiect Doethuriaeth gan KESS 2, menter wedi’i ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop i gysylltu mentrau bach i ganolig (SMEs) gyda myfyrwyr prifysgol ôl-raddedig ar draws Cymru i alluogi cydweithrediad ar brosiectau ymchwil fydd o fudd i Gymru ym maes iechyd, yr economi ddigidol, technoleg garbon isel, a pheirianneg uwch.

Bydd y prosiect hwn yn gweithio’n agos gyda gwirfoddolwyr Tir Coed i ddeall sut y mae hyfforddiant yn y goedwig yn gallu dylanwadu ar eu hiechyd corfforol a’u hiechyd meddwl, lles a chysylltiad gyda’r gymuned. Drwy ddilyn profiadau’r gwirfoddolwyr a’u dilyniant dros amser, mae’r prosiect yn anelu at gyflwyno’r dystiolaeth i Tir Coed sydd eu hangen i barhau i ddatblygu ein rhaglen i fod o’r budd mwyaf i gymunedau cefn gwlad Cymru.

Cwrdd ag Eleri

Eleri yw myfyrwraig Doethuriaeth Tir Coed a'i gwaith hi dros y blynyddoedd nesaf fydd i astudio a dogfennu profiadau cyfranogwyr Tir Coed fel rhan o'i dadansoddiad o goedwigoedd Cymreig a safleoedd therapiwtig sy'n gallu gwella lles ac ymgysylltiad cymdeithasol. Bydd y prosiect yn dadansoddi hyfforddiant galwedigaethol a digwyddiadau Tir Coed heddiw ac yn y gorffennol i'w gwneud y gorau gallant fod ar gyfer cyfranogwyr, grwpiau, a chymunedau yng nghefn gwlad Cymru yn y dyfodol.


Ers i mi gyrraedd Aberystwyth yn 2012, dw i wedi ymweld â choedwigoedd anhygoel Aber a’i harfordir i ymlacio ar ôl diwrnodau o ysgrifennu traethodau ac adolygu ar gyfer arholiadau, felly mae’r gorgyffwrdd rhwng natur, iechyd meddwl a lles wedi chwarae rôl bwysig yn fy mywyd i ers amser hir. Rwy’n mwynhau’r sialens o gyfuno fy hyfforddiant ymchwil mewn daearyddiaeth ddynol gyda’r ffordd y mae Tir Coed yn cael ei redeg o ddydd i ddydd i ddod a’r ddau ynghyd. Mae’n broses hir, ond rwy’n edrych ymlaen ar weld pa gyfeiriad y bydd yn mynd!



Knowledge Economy Skills Scholarships (KESS 2) is a pan-Wales higher level skills initiative led by Bangor University on behalf of the HE sector in Wales. It is part funded by the Welsh Government’s European Social Fund (ESF) convergence programme for West Wales and the Valleys.

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed