Gweithio gyda ni

Mae gan Tir Coed 30 aelod o staff sydd yn cydweithio yn agos er lles cymunedau, tir a choetiroedd Cymru.

Swyddi gwag


Arweinydd Gweithgaredd a Thiwtor - Prosiect AnTir Powys

Contract Cyfnod Penodol 18.75 a/w hyd at 31 Rhagfyr 2024

£23k pro rata

Lleoliad: Powys

Job Description Activity Leader Powys Cym 2024 03 12

Ymgeisio: Anfonwch lythyr eglurhaol (1 dudalen A4) yn manylu sut yr ydych yn cyflawni’r meini prawf gofynnol a manteisiol, ynghyd â CV byr, i [email protected].

Dyddiad cau: Dydd Sul 24ain Mawrth am 5yh Dyddiadau cyfweld: 2il Ebrill 2024


Ymddiriedolwyr

Mae bwrdd o 9 ymddiriedolwr brwdfrydig a gwybodus yn llywodraethu dros Tir Coed, gan ddod â chymysgedd o brofiad o'r sector breifat, y sector gyhoeddus a'r drydedd sector gydag hwy.

Yn ystod y cyfnod cyffroes hwn, teimlwn ei fod yn bwysig i ofyn i bobl newydd ymuno a'n Bwrdd o Ymddiriedolwyr. Mae'r rôl yn cynnwys gwirfoddoli tua 7 - 10 diwrnod y flwyddyn o'ch amser (gan gynnwys ebyst) i dywys a chefnogi'r Elusen. Telir treuliau rhesymol. Ar gyfer post yr Ymddiriedolwr, mae Tir Coed yn edrych i annog merched, pobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol, a phobl ifanc i ymgeisio, yn enwedig y rheiny gall ddod a profiad cyllid, Adnoddau Dynol a chyfreithiol i'r Bwrdd, er hyn ystyrir pawb a diddordeb yn ol teilyngdod.

Cysylltwch â ni os hoffech ymuno â bwrdd ymddiriedolwyr Tir Coed neu os oes gennych ddiddordeb yn ein gwaith.


Arweinwyr Gweithgareddau a Gweithwyr Cynorthwyol Llawrydd

Mae Tir Coed yn cyflogi dros 50 hyfforddwr arbenigol llawrydd er mwyn ymgymryd â'r gwaith hynod bwysig o arwain grwpiau a rhedeg gweithgareddau a hyfforddiant ar y tir ac yn y coed.

Os ydych yn Arweinydd Gweithgareddau Llawrydd ac yn meddwl y gallech ddarparu gweithgareddau diddorol, anfonwch CV a llythyr esboniadol atom gan fanylu ar eich profiad perthnasol a'ch argaeledd. Cysylltwch â ni os hoffech fanylion pellach ar sut i ymwneud â phrosiectau Tir Coed.


Lleoliadau Gwaith

Mae Tir Coed wedi cynnig 7 lleoliad gwaith yn y swyddfa dros y 5 mlynedd diwethaf.

Ers cychwyn gyda Tir Coed 'dwi wedi profi sefydliad sydd yn flaengar, yn effeithiol, yn gadarnhaol ac yn gynhaliol, 'dwi wedi dysgu llawer a gweld y trawsffurfiad cymdeithasol, emosiynol a seicolegol yn llawer o'r gwirfoddolwyr
Gweithiwr Tir Coed

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed