PROSIECT LEAF

Dysgu i Alluogi Cyflawniad a Boddhad 

Tachwedd 2017 - Hydref 2019
Ar hyn o byrd mae Tir Coed yn lansio'r prosiect newydd sbon LEAF wedi'i ariannu gan Cronfa Loteri Fawr, Cyfoeth naturiol Cymru, The Rank Foundation, The Tudor Trust, The Ashley Family Foundation, Sefydliad Cymunedol yng Nghymru ac Elan Links: Pobl, Natur a Dwr. Mae'r prosiect LEAF yn pontio ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru ac mi fydd yn creu cyfleoedd i bobl gael mynediad i weithgareddau coetir llesol wedi'u teilwra, cyrsiau hyfforddi sgiliau coetir, wythnosau o hyfforddiant dwys gyda gweithgareddau sector benodol, mentor, lleoliadau gwaith a chefnogaeth ar gyfer mentrau coetir sy'n ffynu.

Dyluniwyd y prosiect LEAF i alluogi newid dwfn ym mywydau pobl, gan gynnig dilyniaint sydd wedi'u teilwra sy'n gweithio gyda sgiliau a dyheuadau'r unigolyn.

Mae LEAF yn brosiect cyffroes i Tir Coed sydd wedi datblygu dros 3 blynedd mewn ymgynghoriad â 130 sefydliad cyfeirio, dros 1000 o gyfranogwry, a 50 tiwtor llawrydd. Mae'r prosiect hwn yn casglu arbenigedd 16 partner allweddol ar draws y sector amgylcheddol, sector diwylliannol a'r sector therapiwtig.

Cadwch lygad ar ein calendr am ragor o wybodaeth ar sut i for yn rhan o'r brosiect.

ELAN LINKS: Pobl, Natur a Dwr

Ionamwr 2018 - 2023

Mae Prosiect Elan Links yn Brosiect Partneriaeth Tirlun £3 miliwn gyda Chronfa Treftadaeth y Loteri rhwng Ymddiriedolaeth Cwm Elan, Dwr Cymru, CARAD, Cyfoeth Naturiol Cymru, Rhayader 2000a Tir Coed fyddyn gwarchod treftadaeth unigryw ac arbennig Cwm Elan tra'n cynyddu cyfleoedd ar gyfer mwynhad, addysg, hyfforddiant a hamdden er lles pawb.    

Bydd Tir Coed yn arwain ar agwedd estyn allan ac ymgysylltu cymunedol y prosiect 5 mlynedd gan ddarparu:

  • 20 x diwrnod gweithgaredd y flwyddyn ar gyfer grwpiau dan anfantais.
  •  2 x cwrs hyfforddi cyflwyniadol y flwyddyn 
  • 30 x diwrnod a noson o encil ar gyfer grwpiau dan anfantais o Birmingham  
  • 1 x Doethuriaeth ymchwil Gywddoniaeth Gymdeithasol drwy kess2  
  • 1 x prentisiaeth y flwyddyn am 5 mlynedd
  • 2 x wythnos o hyfforddiant dwys y flwyddyn

Gan gysylltu gyda themâu ehangach y prosiect, bydd yna gyfleoedd am brentisiaethau, lleoliadau gwaith a hyfforddiant pellach.  

Bydd Cwm Elan hefyd yn safle i ddarparu Prosiect LEAF.

http://www.elanvalley.org.uk/a...

     

Dysgu am Goed

Hydref 2017 - Awst 2019

Mae Tir Coed wedi sicrhau cyllid ARWAIN i rhedeg prosiect peilot Dysgu am Goed (Teaching Trees) yng Ngheredigion.

Bydd Dysgu am Goed ar gael i 44 ysgol ar draws Ceredigion. Mae Dysgu am goed yn bartneriaeth rhwng Tir Coed a'r Royal Forestry Society.

Nod Dysgu am Goed yw:

  • creu cysylltiad rhwng ysgolion cynradd a'i coedwigoedd lleol ar amgylchedd/treftadaeth lleol
  • darparu gweithgareddau sydd â chysylltiad â'r cwriciwlwm i'r Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 fydd yn ymgorffori gweihtgareddau cofiadwy fydd yn helpu plant i greu cysylltiad rhwng rheoli coedwigoedd yn weithredol a'r buddion i goed, bywyd gwyllt, pobl a'r pren
  • annog dysgu yn yr awyr agored
  • bod yn hyblyg i gwrdd â blaenoriaethau'r ysgol

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014 - 2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Cynhwysiant Gweithredol

Menter newydd cyffroes Tir Coed yw Cynhwysiant Gweithredol sydd wedi'i anelu ar bobl ifanc nad sydd mewn Addysgu, Cyflogaeth nac Hyfforddiant (NEET).

Dros y 2 flynedd bydd Tir Coed yn cynnig cyrsiau hyfforddi wythnos o hys wedi'i anelu at gefnogi bobl ifanc i gael mynediad at addysg, cyflogaeth, gwirfoddoli, hunan-gyflogaeth, cyflogaeth gyda chymorth ac hyfforddiant.

Bydd Tir Coed yn rhedeg 4 wythnos o Hyfforddinat Dwys ar draws Ceredigion a Sir Benfro.

Mae Cronfa'r Cynhwysiant Gweithredol yn cael ei reoli gan Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) wedi'i gefnogi gan gyllid o Gronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewrop.

Cynnydd

Bydd Tir Coed yn cyflwyno darpariaeth goedwid ar gyfer Cynllun Cynnydd yng Ngheredigion rhwng Ebrill 2017 a Chwefror 2019.  Nod y cynllun Cynnydd yw i gefnogi pobl ifanc rhwng 11 a 24 mlwydd oed i wella eu presenoldeb yn yr ysgol, eu cyrhaeddiad a'u ymddygiad a'i helpu i fagu sgiliau a chymwysterau fydd yn y pen draw yn eu helpu i ennill cyflogaeth yn yr ardal leol.


Gwelwch ein calendr am ddigwyddiadau a ffyrdd o ymuno gyda ni

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed