Cwrs Hyfforddi 2 ddiwrnod mewn Sgiliau Adeiladu Sylfaenol
Written by Tir Coed / Dydd Llun 30 Gorffennaf 2018
Cynhaliodd Tir Coed Gwrs Hyfforddi 2 ddiwrnod mewn Sgiliau Adeiladu Sylfaenol mewn coedwig fechan ger Llechryd ar y 24ain a’r 25ain o Orffennaf. Gwarchodfa natur yr Ymddiriedolaeth Nature yw Maidie B Goddard gyda mosaig o goetir a glaswellt gyda cheunentydd llydan o goed. Yn y coetir Onnen aeddfed mae cysgodfa bren a wnaed yn wreiddiol gan Tir Coed yn ôl yn 2007. Roedd y gysgodfa yn dechrau pydru a chwympo’n ddarnau ac yn anniogel.
Rhoddwyd y dasg o ail-doi’r gysgodfa a’i wneud yn ddiogel i 4 hyfforddai o dan arweiniad 2 o’n tiwtoriaid fel rhan o gwrs oedd a ffocws ar iechyd a diogelwch wrth baratoi ar wneud y prawf ar gyfer cerdyn CSCS (Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu).
Aeth yr hyfforddeion ati i glirio a pharatoi’r ardal, tynnu’r hen bren i ffwrdd o’r to a sefydlogi’r strwythur. Fe wnaethant wastadau’r ardal ac ail-leoli a diogelu’r strwythur, yna aethant ati i dorri’r deunydd i faint yn barod i osod y darnau yn eu lle. Gosodwyd y pren newydd at y ffrâm a gorffennwyd yr ochrau fel bod y cysgodfan yn ddiogel rhag tywydd garw ac yn addas i bwrpas.
Mae’r cysgodfa yn edrych yn wych wedi’i orffen ac y mae’r Ymddiriedolaeth Natur yn hapus iawn gyda’r canlyniad gorffenedig. Llongyfarchiadau mawr i’r 4 cyfranogwr ar basio’r prawf cerdyn CSCS.