Cwrs 5 diwrfnod llif gadwyn

Written by Tir Coed / Dydd Mercher 28 Tachwedd 2018

Yn ddiweddar, mae pedwar hyfforddai wedi cwblhau tystysgrif cymhwysedd NPTC City and Guilds mewn Cynnal a Chadw llif gadwyn, trawsbynciol a chwympo coed bach hyd at 380mm.


Cafodd y cwrs ei ariannu’n rhannol o dan gynllun grant Forestry Focused Future sydd wedi’i anelu at ddatblygu’r sector Goedwigaeth Gymreig, gan ariannu 75% o’r gost sy’n gwneud yr hyn sydd yn hyfforddiant drud iawn yn haws i gael gafael arno. Darparwyd yr hyfforddiant gan Andy Bakewell yng Nghoed Tyllwyd, Llanfarian a safle arall yn Llangybi, ger Llanbedr Pont Steffan ble cynhaliwyd yr elfennau o gwympo a thrawsbynciol o’r cwrs, yn gweithio mewn toriadau o byrwydd Norwy a llarwydd.

Galluogwyd y grŵp i symud ymlaen yn gyflym drwy’r daith diolch i brofiad helaeth a chyfarwyddyd clir Andy ac erbyn y diwedd, roeddent yn barod ar gyfer yr asesiadau'r wythnos ganlynol, ac fe basiodd y pedwar yn uchel iawn!

Mae gweld yr hyfforddai yn cwblhau’r hyfforddiant wedi rhoi boddhad mawr i mi gan wybod y bydd yn agor nifer o ddrysau iddynt i mewn i’r sector goedwigaeth a chyflogaeth hirdymor. Mae eu gweld yn cerdded a’u pennau’n uchel yn werth chweil ac yn dangos beth sy’n bosib cyflawni.


Dyma’r cyntaf o nifer o gyrsiau hyfforddi sydd wedi’u trefnu ar gyfer y ddwy flynedd nesaf drwy raglen ariannu Forestry Focused Future ac rydym yn edrych ymlaen at alluogi  mwy o’n hyfforddai i gael mynediad i hyfforddiant cydnabyddedig ac i wella hydwythedd y sector Goedwigaeth Gymreig wrth fynd ymlaen. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Hyfforddiant Andy Bakewell a Focus on Forestry First am eu cefnogaeth barhaus a’i mewnbwn proffesiynol.

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed