Diwrnod yn Sioe Frenhinol Cymru
Written by Tir Coed / Dydd Mawrth 31 Gorffennaf 2018
Dechreuodd Ffion, Teresa a Lowri yn y bore bach ddydd Mawrth y 24ain o Orffennaf i ymuno â stondin Llais y Goedwig yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yn Llanfair ym Muallt.

Yn ystod y dydd mynychodd aelodau o’r tîm nifer o sgyrsiau oedd yn cael eu cynnal gan wahanol sefydliadau o’r sector goedwigaeth gan gynnwys digwyddiad ‘Green Gold’ Confor, y Rhwydwaith Iechyd Gwyrdd Canolbarth Cymru, lansiad Cyfoeth Naturiol Cymru o Ddiben a rôl Ystâd Goetir a sgwrs gan Goed Cadw ar sut mae ymarferion ffermio, coedwigaeth a defnydd tir yn gallu mynd law yn llaw gydag ymagweddau natur ac ymwybyddiaeth o’r amgylchedd. Mi aethon hefyd i ymweld â stondinau rhai o’n partneriaid gan gynnwys Small Woods Association, Coed Cymru, MWMAC, Focus on Forestry First, Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn ac RFS.
Ymunodd graddedigion Tir Coed, Eifion a Robin a'r stondin Llais y goedwig hefyd i arddangos eu cynhyrchion ac i arddangos eu sgiliau coed irlas wrth ochr crefftwyr eraill.

Diolch arbennig i Llais y Goedwig am roi lle i ni ar y stondin eleni eto.