Al yn gobeithio gwneud argraff yn ei rôl newydd fel cydlynydd gwirfoddolwyr
Written by Tir Coed / Dydd Mawrth 08 Chwefror 2022
Dywedwch rywbeth bach am eich hun...
Fy enw i yw Al a chefais fy ngeni a’m magu yma yn Aberystwyth. Rydw i wedi bod yn briod ers dros 15 mlynedd ac mae gen i ddau o blant sydd yn eu harddegau. Dros y blynyddoedd, mae fy ngyrfa wedi bod yn amrywiol iawn. Rydw i wedi gweithio ar gyfer gwahanol elusennau iechyd a llesiant. Roedd fy rolau blaenorol i gyd yn ymwneud â hwyluso gweithgareddau awyr agored a chyrsiau addysgiadol fel eco-therapi, garddio a cherdded ar gyfer llesiant.
Beth yw eich diddordebau?
Yn ystod y cyfnod clo, penderfynais i ymgymryd â diddordeb newydd – padlfyrddio. Gwnaethom dreulio’r haf i gyd ar y traeth yn yr awyr iach.
Beth sy’n eich cyffroi chi fwyaf am eich rôl newydd?
Rwy’n eiriolwr brwd ar gyfer hamdden ac addysg awyr agored ac rwy’n gyffrous iawn i fod ynghlwm â ffocws newydd Tir Coed: annog pobl i greu mannau gwyrdd ar gyfer bioamrywiaeth a thyfu bwyd yn lleol.
Beth yw eich hoff beth am fod allan yn yr awyr agored?
Rwy’n caru bod y tu allan, wedi fy amgylchynu gan synau ac aroglau’r awyr agored.
Pa un yw eich hoff dymor a pham?
Y gwanwyn yw fy hoff dymor gyda’r holl olygfeydd a’r aroglau o fywyd newydd yn dihuno o’i gwsg gaeafol.
Pe baech yn goeden, pa goeden fyddech chi a pham?
Pe bawn i’n goeden, helygen fydden i. Rwy’n berson dibryder sy’n hapus i ddilyn y llif er mwyn helpu eraill sy’n fy atgoffa o helygen: cadarn, gwydn a defnyddiol.