Alice yn barod i gydlynu prosiect peilot AnTir Tir Coed
Written by Tir Coed / Dydd Mercher 02 Chwefror 2022
Dywedwch rywbeth bach am eich hun...
Rwy’n byw ger Machynlleth gyda fy mhartner, fy mhlant a llond tŷ o anifeiliaid. Cyn dod i weithio gyda Tir Coed, roeddwn i’n gweithio fel Rheolwr Cefnogi Myfyrwyr yn Ysgol Raddedigion yr Amgylchedd yn CAT. Cyn hynny, roeddwn i’n gweithio fel hyfforddwr sgwba-blymio a thywyswr Eco-deithiau yn Affrica a Chanolbarth America.
Beth yw eich diddordebau?
Garddio, darllen a mynd â’r ci am dro.
Beth sy’n eich cyffroi chi fwyaf am eich rôl newydd?
Rydw i wir yn edrych ymlaen at gynnal rhai cyrsiau newydd cyffrous a fydd yn fuddiol i’r byd natur ac i bobl yng Ngheredigion.
Beth yw eich hoff beth am fod allan yn yr awyr agored?
Rwy’n caru’r profiad synhwyraidd o fod yn y goedwig, yn arogli’r dail gwlybion, yn teimlo carreg fwsoglyd neu’n clywed synau’r adar yn canu i’w gilydd.
Beth sy’n eich ysbrydoli chi?
Cynlluniau cymunedol sy’n gweithredu’n ymarferol dros y byd natur.
Pa un yw eich hoff dymor a pham?
Y gwanwyn, tymor gobaith. Gyda’r holl sbrigau gwyrdd yn blaguro a’r adar yn canu.
Pe baech yn goeden, pa goeden fyddech chi a pham?
Efallai fy mod i braidd yn obeithiol, ond mi fydden i’n fedwen arian. Coeden hyblyg a llachar yn ystod pob tymor. Rwyf hefyd yn hapus i arloesi a dechrau rhywbeth newydd.