Gweithgareddau’r hydref ym Mrechfa
Written by Tir Coed / Dydd Mawrth 02 Tachwedd 2021
Rydym wedi dechrau ein darpariaeth tymor yr hydref yn Sir Gaerfyrddin drwy fentro allan i goedwig Brechfa.
Fel rhan o Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Brechfa rydym wedi cael cyllid i gyflawni prosiect er budd cymunedau sy'n ffinio â’r fferm wynt a byddwn yn parhau â'r gwaith hwn dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.
Yn gyntaf, dros dair sesiwn o weithgareddau a gwirfoddoli rydym wedi ymgysylltu â rhai pobl leol fendigedig yng nghoedwig Keepers, gan helpu gyda chynnal a chadw safleoedd, creu grisiau ar lethrau llithrig a gwneud y lle yn fwy diogel ac yn fwy hygyrch i bawb.
Mae'r gwirfoddolwyr hefyd wedi bod yn dysgu sgiliau gwaith coed newydd, yn trwsio ceffylau naddu a meinciau gwaith er mwyn inni eu defnyddio gyda grwpiau eraill yn y dyfodol.
Daeth pawb â'u set drawiadol o sgiliau a phrofiad, gan wneud y sesiynau hyd yn oed yn fwy pleserus, ac yn werth chweil i'w darparu.
Fe wnaethom hefyd estyn allan at deuluoedd lleol sy’n addysgu eu plant gartref, gyda grŵp bach o blant rhwng 10 a 12 oed yn mynychu ein Sesiwn Gweithgareddau Pwrpasol, a drodd yn ddiwrnod llawn hwyl - yn chwarae, darganfod a dysgu.
O greu’r wäell berffaith er mwyn coginio malws melys dros y tân gwersyll i fwynhau lliwiau'r hydref a'r dail crensiog sydd ar hyd y goedwig yr adeg hon o'r flwyddyn, cafodd pawb amser gwych.
Mae Tir Coed yn diolch yn fawr i bawb a gysylltodd ac a fynychodd ein sesiynau.
Brechfa...byddwn yn ôl yn 2022!