Cwrs Patholeg Coed Sylfaenol
Written by Tir Coed / Dydd Iau 29 Tachwedd 2018
Yn ddiweddar, fuodd tri aelod o staff ar gwrs undydd ar Archwiliad Coed Sylfaenol wedi’i leoli ym mhencadlys MWMAC yn Llanfair ym Muallt. Yr oedd y cwrs yn edrych ar adnabod coed a allai fod yn beryglus ac achosion o afiechyd coed gan gynnwys pathogenau ffwngaidd fel Chalara Fraxineus (gwywiad yr onnen) sydd, yn anffodus yn gynyddol gyffredin yng nghoedwigoedd Cymru.
Er taw cwrs sylfaenol ydoedd, yr oedd y cynnwys yn gynhwysfawr ac wedi cynnig offer helaeth i’r staff, yn ddamcaniaethol ac yn ymarferol i asesu’r coedwigoedd mynediad cyhoeddus yr ydym yn eu rheoli.
Ar y cyfan, roedd yn ddiwrnod gwych ac roedd yn braf gweld pencadlys MWMAC a’r goedwig hyfryd y mae wedi’i leoli ynddi. Hoffwn estyn diolch i Chris Hughes, tiwtor y cwrs am ddiwrnod gwych ac am rannu ei wybodaeth helaeth ar iechyd coed a phatholeg goed gyda ni.