Ben Lake yn ymweld â gweithgareddau Tir Coed ym mhrosiect Elan Links
Written by Tir Coed / Dydd Mercher 27 Mehefin 2018
Ar ddydd Gwener hynod o boeth a sych ym Mehefin, daeth Ben Lake i ymweld â phrosiect Elan Links: Pobl, Natur a Dŵr i ddysgu mwy am y 26 prosiect sy’n cael eu darparu ar draws Cwm Elan.
Roedd gwirfoddolwyr Tir Coed yn brysur yn gweithio ar ddau safle, roedd un set o hyfforddeion yn gorffen y grisiau i lwybr mynediad tra’r oedd sesiwn gweithgaredd yn cael ei gyflwyno i bobl o Small Steps a Siawns Teg oedd yn dysgu am fwydo yn y gwyllt a bushcraft.
Roedd y grŵp newydd gasglu mewn cylch o dan gysgod y coed i ddysgu am y grefft o gynai tân pan gyrhaeddodd Ben Lake a chynrychiolwyr o dîm rheoli Elan Links.
Cyflwynodd Ffion Farnell a Teresa Walters Ben Lake i waith Tir coed sydd wedi bod yn rhedeg mewn cymunedau cefn gwlad dros yr 20 mlynedd diwethaf, cyn ei wahodd i edrych ar ‘King Alfred’s Cakes’ a oedd yn cael ei ddefnyddio gan y grŵp i gynnai tân.
Diolch i Ben am ymweld ac am ddysgu mwy am y gwaith cadarnhaol - rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i goedwig yng Ngheredigion.