Ben yn cyfnewid cegin ar gyfer coetir
Written by Tir Coed / Dydd Mawrth 26 Hydref 2021
Mae Ben Flynn wedi ymuno â thîm Tir Coed fel ein mentor ym Mhowys.
Dywedwch rywbeth bach am eich hun…
Rwy'n dod o Brighton ac wedi bod yn gogydd ers 30 mlynedd. Rydw i wedi byw yn Swydd Lincoln, Southampton, Swydd Rhydychen a Chymru. Mae gen i ddau o blant, Huey, sy’n 9 oed, a Heidi Lu, sy’n 7. Rydw i wedi byw yn Rhaeadr Gwy ers Gorffennaf 2020 ac wedi symud yma am fywyd lle gallaf fod allan yn yr awyr agored mwy.
Beth yw eich diddordebau?
Rwy’n hoff o gerdded, ffotograffiaeth bywyd gwyllt ac rwyf hefyd yn chwarae pêl-droed.
Beth sy’n eich cyffroi chi fwyaf am eich rôl newydd?
Yr hyn sy’n fy nghyffroi fwyaf am y rôl newydd yw gweld pobl yn datblygu a helpu iddynt gyflawni’r hyn maen nhw eisiau ei gyflawni.
Beth yw eich hoff beth am fod allan yn yr awyr agored?
Wrth fod allan yn yr awyr agored rwy’n teimlo’n rhydd ac wedi ymlacio, gyda chysylltiad â natur. Mae yna lawer i’w weld yn yr awyr agored, o weld cip ar fywyd gwyllt i’r lliwiau sy’n newid gyda’r tymhorau.
Beth sy’n eich ysbrydoli chi?
Rwy’n cael fy ysbrydoli gan y byd o’m cwmpas, yn enwedig y ffordd mae natur yn goresgyn y mwyafrif o rwystrau ac yn ffynnu o dan yr amgylchiadau mwyaf eithafol.
Pa un yw eich hoff dymor a pham?
Fy hoff dymor yw’r Hydref yn sicr – lliwiau hudolus, llai o ddail ar y coed i allu gweld yr adar, tywydd mwy ffres ar ôl haf poeth, a chawl cynnes.
Pe baech yn goeden, pa goeden fyddech chi a pham?
Pe bawn yn goeden buaswn yn dderwen, gallwch ddod o hyd iddi ar hyd y wlad, mae’n gyflym i fwrw gwreiddiau ac wedi cynhyrchu dwy fesen fach.