Adeiladu Meinciau yn Sir Benfro

Written by Tir Coed / Dydd Iau 01 Tachwedd 2018

Mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Cymru, fe wnaeth Tir Coed ychwanegu bwrdd crwn arglwyddaidd i’w casgliad o feinciau picnic yng Nghanolfan Bywyd Gwyllt Cilgerran. Arweiniodd Wil Nickson a Eugene Noakes grŵp o 4 i 6 hyfforddai dros 5 diwrnod yn y gwaith sylfaenol o waith fframio pren derw gydag ychydig o ergonomeg gain.

Fe weithiodd y grŵp yn dda iawn gyda’i gilydd ac yr oeddent yn awyddus i ddechrau ar y gwaith yn syth. Roedd y hyfforddeion brwdfrydig yn hwyliog drwy gydol y cwrs ac fe wellodd eu sgiliau’n fawr dros gyfnod o 5 diwrnod ac erbyn y diwedd dangoswyd techneg dda o weithio gydag amryw o offer llaw.


Cwrs dilyniant oedd hwn oedd yn helpu’r hyfforddeion i ennill sgiliau a phrofiad i’w galluogi i ddatgloi cyfleoedd gwaith a hyfforddiant yn y dyfodol. Fe wnaeth bawb fwynhau’r cwrs ac yr oeddent yn gofyn am fwy. Dros y misoedd nesaf, mi fyddwn yn gweithio gyda’r hyfforddeion i’w cefnogi i mewn i hyfforddiant a chyflogaeth bellach.

Bydden i'n dwlu gwirfoddoli ar gyrsiau'r dyfodol, a hoffwn i brynu coedwig a gweithio yn yr amgylchedd hwnnw.


Oriau Gwirfoddoli: 114

Tiwtor Arweiniol: Wil Nickson

Tiwtor Cefnogi: Eugene Noakes

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed