Hyfforddeion Brechfa yn cymryd camau breision i wella safle

Written by Tir Coed / Dydd Gwener 13 Mai 2022

Y mis hwn mae ein tîm yn Sir Gaerfyrddin wedi dychwelyd i Frechfa gan gyflwyno cwrs byr pedwar diwrnod ar Sgiliau Coetir fel rhan o’n prosiect a ariennir gan Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Brechfa. 

Roeddem yn falch iawn o groesawu pump o hyfforddeion newydd o’r ardal a ymunodd â dau oedd wedi cymryd rhan mewn sesiynau gwirfoddoli blaenorol ar y safle.

Roedd y cwrs yn canolbwyntio ar ddysgu sgiliau newydd yn amgylchedd y coetir ac wrth wneud hynny fe wnaethom ymgymryd ag amrywiaeth anferth o brosiectau i weddu i anghenion a phrofiad pawb. 

Yn ystod y pedwar diwrnod rhoddwyd cyfle i bawb naddu ei lwyau ei hun ac fe wnaeth dau o’r hyfforddeion hyd yn oed adeiladu eu mainc blaenio eu hunain i fynd adref hefo nhw. 

Yn ychwanegol, fe wnaethom risglo canghennau palalwyfen i’w defnyddio i greu rheffynnau a rhoi cynnig ar greu ein rheffynnau ein hunain, gan gael ein hysbrydoliaeth o het blethedig yr oedd arweinydd y gweithgareddau, Ben, yn ei gwisgo.


Fe wnaethom welliannau gwych i’r safle hefyd, gan lunio 100 troedfedd o ffens o goed oedd wedi eu torri’n ddiweddar i wneud y safle’n fwy diogel i’w ddefnyddio gan blant ysgol yn y misoedd nesaf. 

Fe wnaethom ychwanegu ychydig o greadigrwydd hefyd, trwy addurno’r polion mwyaf trwy ddefnyddio cyn i greu patrymau yn y pren, gan gael ein hysbrydoli gan goed Brechfa, natur a phatrymau Celtaidd, ymhlith eraill. 

Fe wnaethom greu tri bloc torri coed onnen newydd ar gyfer grwpiau gwaith coed yn y dyfodol ac adfer y llwybr, gan greu wyneb gwastad a thorri llystyfiant er mwyn diogelwch pawb.


Cyfarfu’r grŵp cyfan bobl newydd, cael sgiliau newydd a mwynhau’r profiad - ac mae pawb yn gobeithio ymuno â ni ar gyrsiau yn y dyfodol.  

Wrth sgwrsio o gwmpas y tân gyda phaned o de a bisgedi sinsir, crynhodd Enfys o Horeb ac Anthony o Bencader y cwrs trwy ddweud: “Mae wedi bod yn hwyl, addysgiadol ac yn brofiad gwych!”

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed