Codi pontydd a chreu llwybrau
Written by Tir Coed / Dydd Gwener 07 Mehefin 2019
Rydym yn awr bythefnos i mewn i’r cwrs 12 wythnos, sy’n golygu bod 250 o oriau wedi’i roi i mewn i’r prosiect yn barod.
Mae’r grŵp wedi bod yn lwcus gydag awyr las a haul cynnes y gwanwyn. Mae’r gwaith wedi cychwyn yn barod ar y tair pont gyda’r ddaear wedi’i balu i osod y cludwyr pren ar y lefel gywir. Mae’r ail grŵp gweithio wedi bod cychwyn yn feiddgar gyda llifiau a loppers i greu llwybr trwy drwch, bron yn anhramwyadwy o frigau pyrwydd. Erbyn amser cinio, daethant yn ôl yn disgleirio ac yn fuddugoliaethus wedi torri eu ffordd, ac wedi brwydro’r gwybod oedd wedi ymddangos yn yr amodau cynnes a llonydd.
Roedd pawb yn sgwrsio a thynnu coes wrth iddynt fwynhau cinio moethus, neu o leiaf cinio cynnes gyda brechdanau wedi’u tostio, wyau, sŵp ac amryw fwyd arall wedi’i goginio ar y tân.
Dw i'n caru bod yma, dw i yn fy nyblau drwy'r dydd.
Diolch yn fawr iawn i Jerry Roberson am ei haelioni gan roi’r lleoliad a darparu’r nwyddau ar gyfer y cwrs. Fe nododd ei fod yn “gyffrous i groesawu pobl o bob gallu, i fwynhau ac archwilio’r goedwig hon.”