Crefft byw yn y gwyllt gyda Hyfforddiant Ceredigion Training
Written by Tir Coed / Dydd Mercher 09 Mai 2018
Ymunodd Hyfforddiant Ceredigion Training â thiwtoriaid Tir Coed, Polly ac Anna yng Nghoed Tyllwyd Llanfarian ar gyfer diwrnod o grefft byw yn y gwyllt a haul.
I ddechrau’r diwrnod, aeth y 10 cyfranogwr am dro o gwmpas y goedwig cyn creu camp a dysgu sut i gynai tân heb ddefnyddio matsis. Unwaith i’r tân gynai, dechreuodd bawb goginio o gwmpas y tân daethant i ben i goginio crempog.
Gan symud ymlaen i ychydig o grefft, fe aeth pawb ati i greu gordd bren, pegiau a sbatwla o foncyffion ac fe dorrwyd gleiniau pren er mwyn creu mwclysau prydferth.
Fe wnaeth pawb fwynhau’r profiad o fod y tu allan i’r ystafell ddosbarth yn fawr, gan ddysgu sgiliau newydd a rhoi cynnig ar rywbeth hollol wahanol.

Am fwy o wybodaeth am Sesiynau Gweithgaredd neu os byddai eich grwp yn mwynhau diwrnod tebyg yn y goedwig cysylltwch a ni.