Antur Ysgol Cefnllys yng Nghwm Elan
Written by Tir Coed / Dydd Gwener 20 Gorffennaf 2018
Yr wythnos hon daeth 12 plentyn a 4 aelod o staff o Ysgol Cefnllys i Elan am ddiwrnod o Antur Goedwig gyda’r tiwtoriaid Matt a Phil.
Aeth y grŵp am dro drwy’r goedwig dderw hyfryd, gan aros ar hyd y ffordd i edrych ar blanhigion, bygiau a bywyd gwyllt arall. Fe wnaethant aros i wrando ar synau natur ac i roi cwtsh i ambell goeden - a pham lai!
Aeth y plant ati wedyn i roi cynnig ar adeiladu cysgodfa ar raddfa fach, gan sicrhau y byddai Action Man yn gynnes, yn sych ac yn gyfforddus am y nos!
Fe wnaeth Phil, y ‘bug man’ fod yn driw i’w enw a dangosodd ei gasgliad o bryfed brodorol a’u perthnasau mwy o bob cwr o’r byd i’r grŵp. Rhoddodd bawb gynnig ar ddefnyddio rhwydi ysgubo i weld beth y gallant ddal.
Fe aeth y prynhawn yn trapio ac yn bwysicach byth yn gwneud s’mores wrth y tân (marshmallow wedi’i dostio a’i osod rhwng dwy fisged siocled).