Ein Prif Weithredwr, Ffion, yn dweud ‘Hwyl Fawr am Nawr’!
Written by Tir Coed / Dydd Llun 14 Mehefin 2021
Mae’r wyth mis diwethaf wedi gwibio heibio mewn cyfuniad o salwch bore, dŵr poeth, fferau wedi chwyddo, blinder rhyfeddol a Tir Coed yn gweithio i geisio gadael y cyfnod clo cyntaf, mynd yn ôl i gyfnod clo am yr eildro, recriwtio ac anwytho 10 aelod newydd o staff, lansio ambell i gynllun peilot cyffrous a pharatoi i ddarparu cymhwyster cydnabyddedig cenedlaethol newydd Tir Coed a’r gwerslyfr digidol - GOFALU. Prin fod angen dweud fy mod i’n barod am hoe fach, a byddaf yn mynd ar gyfnod mamolaeth yr wythnos nesaf.
Rwy’n gadael Tir Coed yn nwylo hynod fedrus tîm talentog, angerddol a chydweithredol o 25 dan arweiniad Teresa Walters a Helen Gethin.
Mae blwyddyn gyffrous iawn o’n blaenau wrth i ni allu dychwelyd i’r coed, a dechrau gweithio wyneb i wyneb unwaith eto a chwrdd â phobl go iawn - hwre!
Rydym ni’n lansio cymhwyster newydd a gwerslyfrau digidol yn ogystal â pheilota gweithgareddau tyfu bwyd cynaliadwy.
Byddwn ni’n dechrau ar flwyddyn olaf y prosiect hynod lwyddiannus, LEAF, ac yn dechrau paratoi ar gyfer symud ymlaen at y prosiect mawr nesaf, AnTir, lle bydd Tir Coed yn parhau i ddarparu rhaglennu dysgu a lles trwy ei fodel dilyniant presennol, gan hefyd ehangu i drafod gweithgareddau rheoli tir cynaliadwy ehangach.
Mae rhaglenni ysgolion Tir Coed yn dal i ddatblygu, ac mae gennym ni bartneriaethau diddorol gydag ysgolion cynradd ac uwchradd ar draws Sir Gâr, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.
Mae gweithgareddau masnachu’n mynd o nerth i nerth, gan gefnogi Tir Coed i ddod yn fwy gwydn a hunan-ddibynnol mewn cyfnod ansicr o ran cyllid.
Rydw i’n gyffrous iawn i weld yr holl weithgareddau gwych a fydd yn digwydd yn Tir Coed dros y flwyddyn nesaf i gysylltu pobl gyda’r amgylchedd, eu cymunedau a’u potensial.
Fe welaf i chi’n fuan,
Ffion