Tîm Ceredigion yn ymganghennu
Written by Tir Coed / Dydd Mercher 08 Rhagfyr 2021
Mae ein tîm yng Ngheredigion wedi cael mis cyffrous a chynhyrchiol wrth iddynt ddechrau ar eu gwaith yn eu safle coetir newydd yng Nghoedwig Llanina, ger Cei Newydd.
Mae Tir Coed wedi symud i’r safle diolch i gydweithrediad gyda Dŵr Cymru a Chyngor Sir Ceredigion.
Yn ystod y cwrs Croeso i’r Goedwig, a oedd yn para 5 diwrnod, roedd yr hyfforddeion wedi helpu gosod toiled compost, gosod gwersyll, gwella llwybrau mynediad a dechrau cwympo a bondocio’r coetir sydd wedi’i dan-reoli.
Mae llawer o’r hyfforddeion a fynychodd y cwrs hwn wedi gwneud argraff fawr a bydd rhai ohonynt yn cael eu hystyried ar gyfer y cwrs rheoli coetiroedd yn gynaliadwy. Bydd y cwrs yn dechrau ar ddiwedd y mis ac yn para 12 wythnos.
Hoffwn ddiolch o galon i Dŵr Cymru am hwyluso’r bartneriaeth ddynamig hon ac am y croeso cynnes ar y safle. Diolch yn fawr iawn!