Hyfforddedigion Ceredigion yn taro deuddeg wrth agosáu at derfyn y cwrs
Written by Tir Coed / Dydd Llun 02 Awst 2021
Mae’r cwrs gwaith pren coetir yng Ngheredigion yn dod i’w derfyn ac mae’r hyfforddedigion wedi bod yn gweithio’n galed ar nifer o brosiectau unigol.
Un o’r prosiectau hynny oedd gwneud offerynnau cerddorol ar gyfer Ysgol Llwyn-yr-Eos ym Mhenparcau. Mae’r dyluniadau’n amrywio o set ddrymiau pren i sither crocodeil gyda seiloffon a chastanéts rhyngddyn nhw!
Hefyd, maent wedi bod yn adeiladu toiled compost fflatpac cludadwy, sydd wedi’i ddylunio i gael ei symud i safleoedd coetir eraill wrth redeg cyrsiau yn y dyfodol.
Gwnaethom dreulio’r wythnos ddiwethaf yn ailymweld ag ardal o’r coetir a gafodd ei brysgoedio dau aeaf yn ôl ac mae bellach yn llawn bywyd gwyllt. Yma, roedd y grŵp yn gallu cwblhau tasgau o’u llyfr gwaith fel tynnu llun o we bioamrywiaeth, adeiladu lloches a chynnau tân – roeddent hefyd yn falch o gael ychydig o gysgod rhag yr haul chwilboeth!