Cwrs Coedwigaeth Ceredigion
Written by Tir Coed / Dydd Llun 27 Mai 2019
Y dasg gyntaf oedd creu meinciau o amgylch y tân a chreu gordd bren a churiad i gynorthwyo’r adeiladu yn ystod y cwrs. Bydd yr hyfforddai yn defnyddio’r offer llaw hyn meant wedi’u creu ar gyfer hollti a gosod pyst, ffensys a gatiau traddodiadol ac i wella mynediad y safle yn gyffredinol.
Bydd yr hyfforddai yn adeiladu byrddau a meinciau picnic gan ddefnyddio llarwydd wedi’i dynnu o’r goedwig yn ystod misoedd y gaeaf, fydd yn creu ardal ar gyfer y gymuned leol a theuluoedd sy’n ymweld i ddefnyddio a mwynhau'r lleoliad llonydd.
Mae hwn yn gwrs achrededig ble fydd yr hyfforddai yn ennill ac yn datblygu nifer fawr o sgiliau newydd ac yn creu ffrindiau oes wrth iddynt gydweithio i greu gwelliannau parhaol i’r safle.
Nifer o hyfforddai: 12
Nifer o oriau: 234