Cwrs Newydd Ceredigion
Written by Tir Coed / Dydd Iau 17 Ionawr 2019
Dechreuodd cwrs hyfforddi 12 wythnos Ceredigion dydd Mawrth hyn mewn Rheoli Coetiroedd Cynaliadwy. Mae’r cwrs yn cael ei gynnal yng Nghoed Tyllwyd ger Llanfarian. Cyflwynodd Rob Smith, y Tiwtor Arweiniol, yr hyfforddai i’r goedwig gyda phaned o de cynnes o gwmpas y tân gan ddilyn gyda thaith o’r safle 53 erw. Fe adnabyddodd Rob ynghyd a’r Tiwtor Cefnogol Polly Williams y gwahanol rywogaethau o goed a’r ymarferion rheoli yn yr adrannau gwahanol ar draws y safle. Treuliodd y 12 hyfforddai brwdfrydig amser yn dod i adnabod ei gilydd a chyfarwyddo â’r goedwig a’u hadnoddau. Maent i weld yn awyddus i ddechrau arni ac yn edrych ymlaen at ddechrau’r gwaith ymarferol.