Tystysgrifau a chacen ar ddiwedd y cwrs

Written by Tir Coed / Dydd Mercher 16 Mawrth 2022

Cofnododd hyfforddai a oedd yn cymryd rhan yng nghwrs Rheolaeth Coetiroedd Cynaliadwy Tir Coed yn Sir Gaerfyrddin ddiwedd eu cwrs 12 wythnos gyda thystysgrifau a chacen yn ddiweddar.

Er gwaethaf y glaw, roedd y diwrnod yn ddathliad o waith caled y rhai a gymerodd ran ac roedd yna ymdeimlad cadarnhaol a balchder yn y cynnydd a wnaed.

“Mae’r cwrs wedi bod yn aruthrol,” meddai Kathy, o Fynydd Cerrig. “Fe wnes i fwynhau bob munud ohono.

“Roedd cael pwrpas i fod allan yn yr awyr agored a gwneud rhywbeth yn hytrach na dim ond mynd am dro yn ardderchog.


“Mae cymryd rhan yn y cwrs wedi fy helpu i gryfhau a dod yn fwy heini yn ogystal â’m dysgu sut i reoli’r tir. Mae wir wedi helpu i roi hwb i fy hyder.

“Nawr rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at gymryd rhan yn yr Wythnos Ddilyniant a’r Cwrs Haf.”

Ychwanegodd Leann, mam sengl o Drimsaran: “Dw i ddim wedi gwneud unrhyw beth fel hyn ers dros 20 mlynedd ac mae hi wedi bod yn braf iawn cael bod y tu allan a gwneud rhywbeth i fi fy hun.


“Mae Ben a Peter y tiwtoriaid wedi bod yn ardderchog. Maen nhw mor wybodus a bob amser yn hapus i helpu. Fe wnaethon nhw ein hannog i drafod pethau newydd a bod yn greadigol. Mae wedi bod yn wych.

“Dw i wirioneddol wedi mwynhau’r cwrs ac alla i ddim aros i ddechrau’r un nesaf.”

Mae Daniel, o Bontiets, wedi penderfynu dilyn trywydd newydd yn ei fywyd wedi cymryd rhan.

“Mae’r cwrs wedi bod yn dda dros ben. Mae’n wir ddrwg gyda fi ei fod wedi gorffen,” meddai.

“Rydw i wedi dysgu cymaint o bethau newydd ac mae’r cwrs wedi fy helpu i ddeall y cyfleoedd sydd ar gael yn y maes yma.

“Rydw i wedi dod i ddeall cymaint mwy am ochr byd natur a’r amgylchedd. Dyma beth rydw i eisiau ei wneud nawr. 

“Rwy’n bendant yn edrych i ddechrau gyrfa ym maes rheoli coetiroedd neu faes cysylltiedig.”


Mae Chris, sy’n dod o Llanpumpsaint, yn un arall sy’n siomedig o weld y cwrs yn dod i ben.

“Dod i wybod am y cwrs wnes i wedi i fy ngwraig weld erthygl yng nghylchlythyr y plwyf ac awgrymodd y dylen i roi cynnig arni. Rydw i mor falch ’mod i wedi gwneud hynny achos rydw i wedi cael amser wrth fy modd,” meddai. 

“Roedd y pynciau a drafodwyd ar y cwrs yn hynod ddiddorol ac rwyf wedi mwynhau gweithio allan yn yr awyr agored.

“Mae gan Ben a Peter wybodaeth dda iawn ac maent bob amser yn barod i helpu.  

“Rydw i wedi dweud wrthyn nhw eisoes i fy nghofrestru i ar gyfer pa gwrs bynnag sydd gan Tir Coed ar y gweill.”


Edrychwch ar ein horiel lluniau llawn yma.

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed