Charlie yn rhannu ei angerdd am yr awyr agored

Written by Tir Coed / Dydd Llun 01 Tachwedd 2021

Mae Charlie Pinnegar wedi ymuno â Tir Coed fel ein cydlynydd newydd yng Ngheredigion

Dywedwch rywbeth bach am eich hun...

Rydw i wedi byw yng Nghanolbarth Cymru ers bron 30 mlynedd, gan dreulio’r 20 mlynedd diwethaf yn byw mewn bwthyn bach sydd wedi’i leoli mewn coetir bach heb drydan a nwy o’r prif gyflenwad, lle rwyf yn dal i fod yn ymdrechu i ddod hyd yn oed yn fwy hunangynhaliol.

Beth yw eich diddordebau?

Rwy’n caru’r fistâu a’r golygfeydd o’r bryniau a’r mynyddoedd, rwyf hefyd yn caru archwilio’r cymoedd coediog yn ogystal â cherdded ar hyd rhostiroedd anial.

Rydw i hefyd yn mwynhau amrywiaeth o weithgareddau awyr agored, gan gynnwys caiacio, pysgota, garddio a ffotograffiaeth – bues i’n canolbwyntio ar dynnu lluniau o fadarch a ffyngau yr Hydref hwn.

Beth yw eich hoff beth am fod allan yn yr awyr agored?

Mae byw a theimlo’n agos at natur yn bwysig i mi oherwydd yr hyn sydd ganddi i’w gynnig o ran hamdden, gwaith, llesiant a chanlyniadau therapiwtig.

Beth sy’n eich cyffroi chi fwyaf am eich rôl newydd?

Mae bod yn rhan o Tir Coed yn rhoi’r ymdeimlad i mi fy mod yn rhan o’r ateb, o ran rhannu syniadau a gweithgareddau amgylcheddol-gynaliadwy, yn ogystal â rhoi cyfleoedd i bobl a’u hannog nhw i gymryd rhan.

Pa un yw eich hoff dymor a pham?

Fy hoff dymor? Mae gan bob un ohonynt rywbeth i’w gynnig, felly ni allaf benderfynu.

Pe baech yn goeden, pa goeden fyddech chi a pham?

Rwy’n credu mai’r dderwen hynaf yn y goedwig fyddwn i oherwydd mi fyddwn i’n rhoi cartref da i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt.

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed