Canolfan Ieuenctid Concord yn teithio o Firmingham i Elan
Written by Tir Coed / Dydd Gwener 17 Awst 2018
Croesawyd grŵp o bobl ifanc a staff o Ganolfan Ieuenctid Concord ym Mirmingham ar encil i Gwm Elan yr wythnos hon.
Ar ôl cyrraedd aethant yn syth i gychwyn ar eu gweithgareddau gyda staff o Lety Cwm Elan. Y ‘Leap of Faith’ oedd y cyntaf - sialens rhaffau uchel i ddringo ysgol i blatfform a neidio o’r top, gan ddibynnu ar y rheiny sy’n dal y rhaffau diogelwch i’ch gadael yn ôl i’r ddaear yn ofalus. Gweithgareddau adeiladu tîm gwych ac ymdeimlad o falchder i’r rheiny oedd yn mynd i fyny rhan o’r ffordd.
Nesaf oedd caiacio i fyny argae Dol y Mynach, gan ddysgu ychydig am yr ardal ar hyd y ffordd.
Y bore wedyn, fe wnaeth tiwtoriaid Tir Coed Polly a Gavin arwain sesiwn llawn hwyl ar wneud targedau, bwâu a saethau, coginio danteithion blasus wrth y tân a hwylio cychod wedi’u gwneud o ddeunyddiau naturiol a gasglwyd ar hyd yr afon.
Roedd yn bleser cael y grŵp yno a chafwyd amser da iawn gan bawb.