Gweithgareddau Celf a Chreft I Ysgol Llwyn yr Eos
Written by Tir Coed / Dydd Mawrth 23 Gorffennaf 2019
Doedd y tywydd gwael heb roi’r plant awyddus bant i gymryd rhan yn y gweithgareddau celf a chrefft a wnaeth cael ei threfnu fel rhan o’i ddiwrnod hwyl ddiwedd tymor. Roedd y plant wrth eu bodd yn llunio ac addurno medalau pren ac yn gwneud addurniadau o glai a deunyddiau naturiol.
Roedd y gofod creadigol a ddefnyddiwyd o dan strwythur yr helyg byw yn eu gardd goedwig yng nghefn yr uned, pan orffennodd y plant eu creadigaethau i addurno eu hoff goed.
Dywedodd Pennaeth yr Uned Nicolas Pugh 'Diolch yn fawr iawn i dîm Tir Coed am eu brwdfrydedd a'u creadigrwydd wrth hwyluso sesiwn awyr agored wych yn ein hysgol ddydd Iau diwethaf. Roedd ein plant i gyd wedi mwynhau fod yn ymarferol ac yn sicr nid oedden nhw'n gadael i'r tywydd gwlyb atal y diwrnod i fynd ymlaen'.