Dysgu am Goed - Blwyddyn gron
Written by Tir Coed / Dydd Gwener 09 Tachwedd 2018
Mae Dysgu am Goed wedi bod yn rhedeg ers blwyddyn gyfan nawr ac yn ystod y flwyddyn mae’r prosiect wedi bod yn llwyddiannus iawn.
Yn gyfan gwbl, mae 13 o ysgolion cynradd Ceredigion wedi ymgysylltu â’r prosiect yn galluogi 359 o blant a 41 oedolyn i fuddio o’r prosiect.
Mae’r sesiynau wedi amrywio yn dibynnu ar oed y grŵp a’r Swyddog Addysg sy’n cymryd y sesiwn. Mae’r plant hynna, cyfnod allweddol dau, wedi mwynhau dysgu am enwau’r coed gwahanol a chyfrifo oed y coed gan fesur cengl y goeden. Mae’r plant ifanca’ y cyfnod sylfaen wedi mwynhau helfeydd natur, adnabod dail a rhwbio rhisgl.
Yn ogystal â chynnig gweithgareddau hwyliog, addysgiadol mewn coedwigoedd lleol, mae Dysgu am Goed wedi bod yn codi ymwybyddiaeth o waith a gyrfaoedd posib sydd ar gael yn y sector goedwigaeth a pha mor bwysig yw’r sector goedwigaeth i’w dyfodol.
Bydd Dysgu am Goed yn rhedeg nes ddiwedd y flwyddyn academaidd hon (2018/2019) felly os ydych yn gweithio yn un o ysgolion cynradd Ceredigion, neu os oes gennych blant yn un o’r ysgolion, cysylltwch â Lowri: [email protected] i archebu sesiwn.