Dysgu am Goed - Y sesiwn Gyntaf
Written by Tir Coed / Dydd Mawrth 12 Rhagfyr 2017
Daeth blwyddyn 2 Ysgol y Dderi i sesiwn Dysgu am Goed a arweiniwyd gan ein Swyddog Addysg, Emma.
Yn gyntaf, aeth Emma a'r plant am dro o gwmpas y goedwig, gan esbonio iddynt am reolaeth y goedwig a thynnu eu sylw at yr amrywiaeth o goed gwahanol. Ar hyd y daith, gofynnwyd i'r plant chwilio am anifeiliaid gwahanol oedd wedi'u cuddio o gwmpas y goedwig.
Yn dilyn y daith fechan, rhannwyd y plant yn ddau grwp a gofynnwyd iddynt greu gweoedd bwyd o'r cerdiau fflach y rhoddwyd iddynt. Gweithiodd y plant gyda'i gilydd i geisio adnabod coed gwahanol drwy edrych ar y dail y rhoddwyd iddynt.
Mwynhaodd y plant a'r athrawon eu dwy awr y tu allan i'r ystafell ddosbarth ac y maent yn edrych ymlaen at dreulio mwy o amser yn yr amgylchedd naturiol.