Wythnos Dilyniant Ecoleg yng Nghwm Elan
Written by Tir Coed / Dydd Gwener 25 Mai 2018
Roedd y tywydd yn odidog ar gyfer ein hwythnos dilyniant yng Nghwm Elan yn rhan o brosiect Elan Links. Cyflwynwyd wyth person o Bowys i’r prif dechnegau o arolygu a monitor rhywogaethau a chynefinoedd.
Aeth y grŵp i ymweld â rai o leoliadau amrywiol a hynod brydferth o gwmpas Cwm Elan a rhoddwyd cynnig ar nifer o dasgau gwahanol, er enghraifft cymryd sampl o’r pwll a’r nant, monitro adar, mapio cynefinoedd a llawer mwy.
Fe wnes i fwynhau dysgu llwyth o enwau ar gyfer planhigion ac anifeiliaid. Roedd adnabod gwenyn yn sbort ‘fyd a nes i ddysgu tipyn.
O’r cwrs, nes i ddatblygu cariad newydd at y byd naturiol a mewnwelediad gwell i’r prosesau a’r angen ar gyfer arolygu.