Lansiad Swyddogol Elan Links
Written by Tir Coed / Dydd Llun 26 Mawrth 2018
Tân, blodau pren a chreu canhwyllau oedd rhai o’r gweithgareddau ddydd Sadwrn diwethaf yn lansiad swyddogol cynllun Elan Links. Roedd y diwrnod yn nodi cychwyn swyddogol y cynllun pum mlynedd, y mae Tir Coed yn bartneriaid yn y cynllun.
I ddathlu’r bartneriaeth, trefnodd Tir Coed gweithgareddau gwaith coed irlas a chrefft byw yn y gwyllt ar gyfer plant a theuluoedd. Drwy gydol y dydd, roedd pobl yn ceisio cynnau tân gan ddefnyddio dril bwa, yn creu breichledi o frwyn, yn creu canhwyllau cyntefig a defnyddio cyllell a cheffyl eillio i greu blodau pren.
Mae gweithgareddau tebyg i hyn yn cael eu cynnig i grwpiau lleol a grwpiau o Firmingham, fel rhan o’r thema profiad ac addysg yng nghynllun Elan Links. Dros y pum mlynedd nesaf, bydd Tir Coed yn arwain ar dri phrosiect fydd yn cynnig hyfforddiant achrededig, diwrnodau gweithgaredd ac encilion preswyl.
Mae cynllun Elan Links yn fuddsoddiad £3.3miliwn yn ardal Cwm Elan. Mi fydd 26 o brosiectau’n cael eu cyflwyno ar draws pedwar thema: dathlu etifeddiaeth, mwynhau Elan, profiad ac addysg Elan a gwella natur a bywyd gwyllt. Mae’r prosiectau’n cynnwys gwella’r hygyrchedd i dreftadaeth adeiladau ac archeolegol gan gynnwys yr argae hanner adeiledig Dol y Mynach, ‘pillbox’ yr Ail Ryfel Byd, gwersyll gorymdeithio Rhufeinig; gwella’r llwybrau cerdded sy’n bodoli’n barod a chreu llwybrau newydd ar gyfer cerdded/rhedeg, beicio a marchogaeth; diwrnodau gweithgaredd a chyrsiau hyfforddiant fydd yn hyrwyddo llwybrau gyrfa mewn coedwigaeth ac yn gwarchod yr adar a’r rhywogaethau prin a geir yn ucheldiroedd helaeth Cwm Elan.
Bydd Elan Links, a gyllidir gan y Loteri Genedlaethol drwy Gronfa Treftadaeth y Loteri, Ymddiriedolaeth Cwm Elan a Dŵr Cymru, yn diogelu treftadaeth unigryw ac amrywiol Cwm Elan ac yn gwella’r ardal yn y tymor hir.
Mae’r cyfleoedd sydd ar gael i bobl ymgymryd â nhw drwy cyrsiau hyfforddi Tir Coed fel rhan o Gynllun Elan Links yn newid bywyd ac mi fyddant yn cael effaith mawr.