Cwrs Hyfforddi 12 Wythnos Cwm Elan
Written by Tir Coed / Dydd Mercher 24 Hydref 2018
Ym mis Medi dechreuodd y cwrs 12 wythnos sy’n digwydd ar hyn o bryd. Wedi’i leoli ym Mhentref Elan ac yn cael ei arwain gan Colin Titley a Dave Thomas, y dasg gyntaf i’r grŵp oedd creu ardal eistedd fydd yn cael ei ddefnyddio gan grwpiau Tir Coed yn y dyfodol.
Dechreuodd yr hyfforddeion ar y gwaith yn syth, gan glirio ardal o brysgwydd a hen ffens. Yna aethant ymlaen i lefeli ardal a gosod byrddau datgelu, stepiau a seddi. Aethant hefyd ati i gynllunio a gwneud mainc ychwanegol a’i osod yn yr ardal hon. Mae’r ardal yn edrych yn wych.
Mae’r grŵp wedi bod yn gweithio’n dda iawn gyda’i gilydd ac wedi bod yn mwynhau dysgu sgiliau coedwigaeth newydd yn ogystal â dod yn gyfarwydd ag amrywiaeth eang o offer.
Yn ail hanner y cwrs bydd pawb yn parhau i weithio ar eu dyluniad a’i sgiliau coedwigaeth wrth iddynt wneud gatiau a drysau.