Ymweliad Eleri i Greynog
Written by Tir Coed / Dydd Iau 03 Mai 2018
Eleri sy’ ‘ma, myfyrwraig doethuriaeth breswyl Tir Coed, yr un sy’n gofyn yr holl gwestiynau ac o bryd i’w gilydd yn eu hateb! Yr wythnos hon fe es i i ‘Gynhadledd ac Ysgol Theori Ôl-radd Daearyddiaeth Ddynol Gymreig Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol’ yng Ngregynog, tŷ crand y tu allan i’r Drenewydd, hen gartref y chwiorydd Davies enwog. Roedd Gwendoline a Margaret Davies yn noddwyr angerddol o gelf a diwylliant sydd, ymysg nifer o weithgareddau dyngarol eraill, a roddodd casgliad enfawr o 260 gwaith celf i Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd, ac wedi cefnogi nifer o gerddorion ac artistiaid yn Aberystwyth a chanolbarth Cymru a oedd yn ffoaduriaid o Wlad Belg yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach yn 1920, fe brynwyd Neuadd Gregynog i greu cartref i’r celfyddydau yng Nghymru a dyna le’r oeddwn i ar fore Llun, yn siarad ag academyddion eraill am Tir Coed yn yr ystafell gerddoriaeth hyfryd (er bod yr acwstig yn heriol!). Daeth myfyrwyr Doethuriaeth o brifysgolion Aberystwyth, Caerdydd ac Abertawe i gyflwyno’i gwaith ymchwil, oedd yn sôn am bynciau amrywiol fel llyfrifeg, cenhedlaeth Windrush, marathon elusennau, cymunedau syrffio, yr Amgueddfa Palesteinaidd, ac ymfudwyr Oes Newydd, yn ateb cwestiynau gan gynulleidfa o fyfyrwyr a darlithwyr.
Fi oedd y siaradwr cyntaf ar y bore llun ac, er fy mod yn ysgwyd fel deilen, fe gyflwynais fy nghynnig ‘An analysis of Welsh woodlands as sites of therapeutic encounter and social engagement’, fydd yn archwilio model Tir Coed o wella iechyd a lles drwy hyfforddiant yn y goedwig. Aeth fy slot 15 munud heibio’n gyflym iawn wrth i mi gyflwyno’r cwestiynnau ymchwil, gwybodaeth gefndir, fy nulliau o gasglu meddyliau a barn gwirfoddolwyr Tir Coed, fy nghynllun gweithredu ar gyfer y ddwy flynedd a hanner nesaf ac ateb y cwestiwn hollbwysig - ‘Pam bod angen astudio hwnna?’. Roedd y gynulleidfa’n wych, gan roi dipyn i mi feddwl amdano wrth i mi barhau i adeiladu fy ymchwil a, yn garedig iawn, fe wnaethant gymeradwyo ar y diwedd.
Roedd y glaw didostur wedi’n gorfodi i aros tu fewn, ond ar y diwrnod olaf, ces gyfle i edmygu’r tir o amgylch Gregynog, lle’r oedd coed derw hynod o dal, coed coch, a choed cas gan fwnci, cennau prin, a chyrlau anarferol sydd wedi’i benodi’n Safle ar gyfer Diddordeb Gwyddonol Arbennig. Os cewch gyfle i ymweld, ceisiwch ddod o hyd i Dderwen Gregynog, derwen sydd wedi’i docio (a braidd yn enwog) a oedd ar restr fer cystadleuaeth Coeden y Flwyddyn yn 2016 am ei ddiamedr anhygoel o 6 metr a’i swyn cnotiog.
Ar y cyfan roedd yn gynhadledd wych, adeilad hyfryd, a chynlluniau ymchwil cyffroes ar gyfer y dyfodol - gwyliwch y gofod!
Am ragor o wybodaeth neu i ddysgu mwy am fy mrosiect ymchwil, cysylltwch â ni.