Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Brys

Written by Tir Coed / Dydd Mawrth 01 Mehefin 2021

Ar ddydd Iau gwyntog, bu chwech o wirfoddolwyr a staff Tir Coed yng Nghoed Tyllwyd yn cwblhau ein cwrs hyfforddiant ‘Cymorth Cyntaf Brys yn y Gweithle + F’ gyda’r hyfforddwr Marcus Davies o gwmni Realism Training.

Dechreuodd y diwrnod yn dda gyda thrafodaeth ynglŷn â heriau logisteg yn ymwneud ag ymateb i argyfyngau mewn coetiroedd anghysbell, lle mae tirwedd serth, prinder signal ffôn symudol a phellter sylweddol oddi wrth yr Ysbyty agosaf yn golygu bod ymarferwyr Cymorth Cyntaf yn chwarae rhan hollbwysig o ran sefydlogi anafiadau ac atal niwed pellach wrth aros am gymorth proffesiynol. Fodd bynnag, wrth i hyrddiadau’r gwynt gyrraedd 40mya a’r risg gynyddol o anafiadau o ganlyniad i frigau’n cwympo, penderfynodd y grŵp i fynd i swyddfeydd Tir Coed yn Aberystwyth er mwyn osgoi’r posibilrwydd o orfod rhoi ein sgiliau Cymorth Cyntaf newydd ar waith yn gynt na’r disgwyl.

Unwaith yr oeddem ni’n ôl yn y swyddfa, gyda’n masgiau ac mewn ystafell wedi’i hawyru’n dda, dangosodd Marcus i ni sut i chwilio am anafiadau a gwaedu mewnol, gwirio’r llwybr anadlu a sut i osod person anymwybodol yn yr ystum adfer. Ar ôl egwyl sydyn, bu Malcolm yn ddigon dewr i wirfoddoli i chwarae rôl gweithiwr coedwigaeth anymwybodol wedi’i anafu, mewn senario ffug hynod realistig, gyda llif gadwyn ac anafiadau wedi’u gwneud o glai, gwaed ffug, ac ‘esgyrn’ o bibellau PVC. Dan gyfarwyddyd Marcus, fe wnaethom ni weithio gyda’n gilydd i flaenoriaethu ‘anafiadau’ Malcolm, a dysgu sut i droi person yr ydych chi’n amau ei fod wedi cael anaf i’r cefn ar ei ochr er mwyn cadw’r llwybr anadlu’n glir o unrhyw rwystrau gan hefyd atal unrhyw niwed pellach i asgwrn y cefn.


Ar ôl cinio, eglurodd Marcus, fel cymaint o bethau eraill sydd wedi newid o ganlyniad i’r argyfwng Covid-19, bod gwahaniaethau rhwng dulliau rhoi CPR yn y “byd arferol” a’r “byd Covid” er mwyn achub bywyd pan fo calon ac ysgyfaint person angen help i bwmpio ocsigen o amgylch y corff. Gan osgoi’r  elfen anadlu ar ran y claf a gorchuddio’r wyneb yn ofalus gyda gorchudd, buom yn ymarfer CPR ar fodelau arbenigol a oedd yn cynnwys synwyryddion yn mesur rhythm, lleoliad a dyfnder ein cywasgiadau. Gan ddefnyddio ap ffôn clyfar, bu Marcus yn monitro ein techneg CPR ac roedd yn gallu rhoi adborth i ni yn y fan a’r lle i wella ein cyflymder a’n nerth. Ar ôl pedwar munud hir  o CPR di-baid, roeddem ni’n falch iawn o glywed bod pob un o’r chwech ohonom wedi sgorio cywirdeb o dros 90% yn y prawf, gyda hanner y grŵp yn cael sgôr anhygoel o 99% o gywasgiadau’r frest yn unol â’r targed! Er bod gwên yn dal i fod ar ein hwynebau, roedd hyd yn oed ymarfer mor fyr â hyn yn rhoi syniad i ni o ba mor flinedig ac anodd yw rhoi CPR wrth aros am help.

Am weddill y prynhawn, buom yn ymarfer gorchuddio anafiadau theatrig a realistig (ond rhai ffug, diolch byth) sy’n gallu digwydd o ganlyniad i ddamweiniau gydag offer a choed, yn ogystal â chydran benodol o’r cwrs yn ymwneud â Choedwigaeth a oedd yn trafod anafiadau gwasgu a gwaedu catastroffig - neu ‘ollyngiad’ fel y cyfeiriodd Marcus ato. Cawsom hefyd gyfle i ddysgu sut mae diffibrilwyr, sydd mor hawdd i’w defnyddio, yn gallu arbed amser hanfodol i bobl sy’n dioddef ataliad y galon, ac felly mae’n bwysig gwybod ble mae’r rhain wedi’u lleoli yn eich ardal leol. Ar ôl hynny, yr unig beth oedd ar ôl oedd cychwyn am adref - gan obeithio na fyddem yn cael cyfle i ddefnyddio ein sgiliau newydd ar y ffordd!


Diolch eto i Marcus a thîm Tir Coed a’r gwirfoddolwyr am ddarparu diwrnod cofiadwy o hyfforddiant Cymorth Cyntaf gyda synnwyr digrifwch gwych a’r gallu i addasu er gwaethaf heriau’r tywydd, a’r daith annisgwyl i swyddfeydd Tir Coed hanner ffordd drwy’r diwrnod. Diolch yn fawr!  

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed