Hwyl yn y coed gyda Gwasanaeth Lles y Fyddin

Written by Tir Coed / Dydd Mercher 15 Medi 2021

Treuliodd grŵp o bobl ifanc o Wasanaeth Lles y Fyddin ddiwrnod yn y coed gydag Arweinwyr Gweithgareddau Tir Coed Sir Benfro yn ddiweddar.

Cafodd y bobl ifanc amser gwych yn creu siglenni a chuddfannau yn ogystal â chymryd rhan mewn llawer o weithgareddau coetir hwyliog ac, o bosib, un o'r gemau chwarae cuddio gorau erioed... cymerodd y criw hwn y gêm o ddifrif.

Cafodd pawb ddiwrnod gwych a byddai croeso i'r grŵp anturus a medrus hwn o bobl ifanc yn ôl eto unrhyw bryd.


"Dw i wrth fy modd yma, pryd ydyn ni'n dod eto," gofynnodd Darcy, 11 oed.

Cysylltwch â ni os oes gennych ddiddordeb mewn archebu lle ar gyfer diwrnod yn y coed gyda'ch grŵp, sefydliad neu fusnes.

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed