Nel y deithwraig byd yn ymuno â thîm Tir Coed
Written by Tir Coed / Dydd Llun 25 Hydref 2021
Nel Jenkins yw mentor newydd Tir Coed ar gyfer Sir Benfro.
Dywedwch rywbeth bach am eich hun...
Cefais fy magu yng nghefn gwlad Sir Benfro ac ar ôl ychydig flynyddoedd yng Ngogledd Iwerddon a chanolbarth Cymru, rydw i wedi ymgartrefu eto yng ngogledd y sir. Rydw i wedi gweithio yn y sector lletygarwch a’r maes gweinyddol yn ogystal â gweithio fel cogydd teisennau crwst. Rydw i hefyd wedi teithio o amgylch y byd yn gweithio gyda myfyrwyr rhyngwladol ac wedi gweithio fel gweithiwr achos gyda phobl ddigartref. Yn amlwg, mae’n amrywiaeth eang o swyddi, ond rwyf wedi dysgu sgiliau unigryw ym mhob un ohonynt ar gyfer fy rôl newydd fel mentor.
Beth yw eich diddordebau?
Rwy’n fforiwr brwd ac rwy’n mwynhau dod i adnabod y tir wrth i mi symud drwy’r gylchred gyntaf o dymhorau yn fy nghartref newydd. Rydw i hefyd yn ysgrifennu ac yn perfformio cerddoriaeth, rwy’n hoffi rhoi cynnig ar wneud unrhyw beth creadigol, yn enwedig gwau a chrosio, ac rwy’n caru pobi.
Beth sy’n eich cyffroi chi fwyaf am eich rôl newydd?
Ar ôl colli mam yn ystod y cyfnod clo a darganfod fy mod yn dioddef o ME, ymgeisiais i ar gyfer cwrs Coedwigaeth 12 wythnos Haf 2021 gyda Tir Coed. A dweud y gwir, roeddwn i ond yn meddwl mai dysgu rhai sgiliau saer traddodiadol fyddwn i’n ei wneud, ond ni wnes i ragweld faint byddai bod allan yn y goedwig gyda grŵp hyfryd o gyfranogwyr a staff meithringar yn gwella fy iechyd meddyliol a chorfforol. Roeddwn i mor lwcus bod Tir Coed yn edrych am fentor newydd yn ystod y cyfnod hwnnw ac rydw i’n teimlo’n gyffrous iawn i allu bod yn rhan o’r tîm i gefnogi cyfranogwyr y dyfodol i wneud y mwyaf o’r cyrsiau, fel gwnes i.
Beth yw eich hoff beth am fod allan yn yr awyr agored?
Rwy’n caru sut mae bod allan ym myd natur wir yn eich tirio chi yn yr eiliad honno. Rwy’n caru’r ffaith po fwyaf araf yr ewch chi, rydych chi’n sylwi ar fwy. Mae’n anhygoel sut all lleoliad newid yn llwyr yn ddibynnol ar y tymor, y tywydd, y llanw, neu amser y diwrnod.
Beth sy’n eich ysbrydoli chi?
Mae’r byd natur yn ysbrydoli llawer o fy ngherddoriaeth, yn enwedig afonydd, y môr a’r newid yn y tymhorau. Rwy’n caru straeon am y tir a dysgu am dreftadaeth a diwylliant cefn gwlad Gorllewin Cymru.
Pa un yw eich hoff dymor a pham?
Bydd rhaid i mi ddweud dechrau’r haf. Pan fydd popeth yn dechrau blodeuo ac mae’r gwres yn dechrau cynyddu. Ond mewn gwirionedd, pan fydd un tymor yn dechrau dod i ben, rwy’n gyffrous am yr un nesaf. Rwy’n sicr yn teimlo’n gartrefol wrth fforio yn y gwrychoedd ar hyn o bryd!
Pe baech yn goeden, pa goeden fyddech chi a pham?
Rwy’n mynd i ddweud yr ysgawen. Rwy’n caru’r ffaith bod y blodau a’r mwyar yn blasu mor wahanol i’w gilydd, a pha mor feddyginiaethol a maethol ydyn nhw. Mae’r llên gwerin sy’n gysylltiedig â’r ysgawen yn eithaf cŵl hefyd.