Tyfu Hyder drwy Garddwriaeth Gynaliadwy
Written by Tir Coed / Dydd Mercher 10 Gorffennaf 2024
Darllenwch yr hyn sydd gan Sam, ein hyfforddai o Geredigion sydd wedi troi'n wirfoddolwr, i'w ddweud am ei hamser gyda Tir Coed...
Fe ddes i Tir Coed ar ôl gweld hysbyseb ar y cyfryngau cymdeithasol am y cwrs Garddwriaeth Gynaliadwy. Roeddwn yn cael amser arbennig o galed ac wedi ailddechrau ychydig o arddio fel dihangfa. Roedd y cwrs yn wych, roedd yn hygyrch ac fe wnes i ffrindiau newydd. Roedd y tiwtoriaid yn anhygoel hefyd, yn gyfeillgar iawn ac yn hawdd mynd atynt.
Es ymlaen i wneud y cwrs Rheoli Coetiroedd yn Gynaliadwy wedyn a oedd yr un mor blesurus. Rwyf wedi mynd ymlaen i ddechrau fy musnes bach fy hun fel garddwr, ac wedi dychwelyd i erddi Ty Llwyd fel gwirfoddolwr, a helpu gyda'r cwrs eleni. Rwy'n ei fwynhau'n fawr iawn ac rwy'n dysgu rhywbeth drwy'r amser.
Diolch Tir Coed am anadlu bwywd yn ôl i mi!
Os hoffech gymryd rhan yn un o weithgareddau Tir Coed, cymerwch olwg ar ein Calendr Digwyddiadau a chysylltwch â ni.