Hannah'n cymryd yr arenau fel mentor diweddaraf Tir Coed

Written by Tir Coed / Dydd Mercher 19 Ebrill 2023

Dywedwch ychydig amdanoch chi'ch hun wrthym

Rwy’n grefftwr o deulu o bobl greadigol, ac yn gyffredinol rwy’n hapusaf wrth weithio pethau. Rwy'n hoffi ddod o hyd i’r orau mewn pethau lle bynnag y bo modd a thaflu fy hun i mewn i brosiectau sy'n dal fy niddordeb. Mae gen i radd mewn dylunio (Gwaith Metel a Thecstilau) ac rydw i wedi bod yn athrawes yn y gorffennol ac wedi helpu i redeg melin wlân fach. Fel arfer gellir fy ngweld filltir i ffwrdd oherwydd fy hoffter o ddillad lliwgar a dwngarîs!

Beth yw eich hobïau?

Rwy'n hoffi Karate, mae gen i wregys du a rydw i’n mwynhau helpu dysgu yn fy nghlwb lleol. Mae gen i geffyl o’r enw Tank ac rydw i wrth fy modd yn mynd am dro hir yn fy nghoedwigoedd lleol, yn carlamu’n gyflym yn archwilio’r mynyddoedd ac yn nofio yn yr afon pan mae’n boeth. Rwy’n greadigol iawn a byddaf yn achub ar unrhyw gyfle i ddysgu sgiliau a chrefftau newydd (yn enwedig crefftau treftadaeth). Mae llên gwerin, mytholeg, ofergoeliaeth a straeon (yn enwedig y math arswydus!).

Beth sy'n eich cyffroi fwyaf am eich rôl newydd?

Cael treulio fy nyddiau yn yr awyr agored, helpu eraill i ddod o hyd i gysylltiad â natur a dysgu sgiliau a all gynnig ddechreuadau a chyfleoedd newydd. Rwyf wedi bod yn ffodus i gael arweiniad llawer o bobl anhygoel sy'n gweithio yn yr awyr agored, ac maent wedi fy ysbrydoli i gefnogi eraill yn yr un ffordd.

Beth ydych chi'n ei fwynhau fwyaf yn yr awyr agored?

Rwy'n mwynhau bod ymhell i ffwrdd o dechnoleg, golau artiffisial, offer bîp ac aer hen. Rwy'n hoffi chwilota, coginio ar dân, dringo, dilyn nentydd a llwybrau mwsoglyd tywyll, anghofio beth yw'r amser a chael anturiaethau sy'n eich gadael yn rhy flinedig i wirio'ch e-byst!

Beth yw eich hoff dymor a pham?

Yr hydref, oherwydd dathliadau'r cynhaeaf, pwmpenni, ffyngau mewn digonedd, lliwiau syfrdanol a thraddodiadau tymhorol.

Pe baech yn goeden, pa goeden fyddech chi?

Rwy'n fwy o Bioden na choeden i ddweud y gwir… Ond pe bai'n rhaid i mi ddewis byddwn yn dweud Ffawydden oherwydd lliw llachar dail ffawydd newydd yn y gwanwyn yw fy hoff liw ac rwyf wrth fy modd â'r ffordd mae’r dail oren-frown yn dal ymlaen i mewn i’r gaeaf, yn dal i ddarparu lliw pan fo'r ddyddiau'n llwm.



Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed