Helo! oddi wrth Leila

Written by Tir Coed / Dydd Mercher 19 Ebrill 2017

Helo! Mae wedi bod yn gyfnod prysur ers i mi ddechrau fel Cyfarwyddwr Tir Coed ar y 1af o Fawrth i gymryd yr awenau tro bod Ffion i ffwrdd ar gyfnod mamolaeth. Mae Tir coed hefyd wedi ffarwelio â Jack oedd ar leoliad Twf Swyddi Cymru, yn ogystal â chroesawu Idris bach yn y cyfnod hwn... mwy i ddilyn ym mlogiau'r dyfodol.

Fe adawodd Ffion yn gynt na'r disgwyl felly rwyf wedi bod yn gweithio'n galed i ddal i fyny. Ers i mi ddechrau rwyf wedi ymweld â'r cyrsiau hyfforddi yng Nghoed Tyllwyd ac yng Nghwm Elan, yn ogystal â mynychu diwrnod Iechyd Gwyrdd yn Aberystwyth. Yn ogystal â hyn rwyf wedi ymweld â dau safle newydd sy'n cael eu datblygu yn Sir Benfro ac wedi cyfarfod ag amrywiaeth o bobl rydym yn gobeithio gweithio gyda hwy yn y dyfodol. Wrth gwrs mae yna nifer fawr o bobl i mi ddod i'w adnabod eto ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld wynebau newydd dros yr wythnosau nesaf.


Ychydig amdana i:

Cwblheais radd mewn Bioleg Amgylcheddol o Brifysgol Aberystwyth yn 2001 ac yna ymlaen i astudio Gradd Meistr mewn Addysg Amgylcheddol. Ar ôl roeddwn yn gweithio fel trefnydd digwyddiadau cyn dechrau gweithio mewn egni adnewyddadwy. Mae'r prosiectau diweddaraf yr wyf wedi bod yn gweithio arnynt wedi bod mewn ynni adnewyddadwy cymunedol tra'r gweithio yn Sharenergy. Rwyf wedi byw yng nghanolbarth Cymru ers tua 20 mlynedd erbyn hyn, gan ddysgu ychydig o Gymraeg ar hyd y daith a magu dau fab hyfryd.

Leila Sharland

Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed