Dilyniant Tanwydd pren Ignite
Written by Tir Coed / Dydd Gwener 09 Tachwedd 2018
Fe wnaeth deg hyfforddai gwblhau cwrs 5 diwrnod Tanwydd Pren Ignite, cafodd ei gyflwyno gan Chris Hughes o hyfforddiant MWMAC sydd â llawer o brofiad mewn coedwigaeth a phrosesu tanwydd pren, o fesuriad o goed sefydlog a choed wedi’i bentyrru yn y goedwig o sychu, storio a’i anfon at y cwsmer.
Roedd cydbwysedd da rhwng gwaith theori ac ymarferol, yn cynnig cyfleoedd i’r hyfforddeion i gyfrifo cyfrolau pren yng Nghoed Tyllwyd a hollti hydoedd o onnen yng Nghoed Tamsin gyda holltwr mecanyddol oedd yn cael ei redeg gan dractor. Fe wnaeth Bob Shaw, rheolwr y goedwig, hefyd arddangos y ffyrdd amrywiol o bentyrru, storio a phrosesu coed tân yn barod i’w danfon. Ar y 4ydd diwrnod fe aethom i ymweld â Chanolfan Dechnoleg Amgen ym Machynlleth i weld 3 gwahanol fath o foeler biomas gan gynnwys gweld y tu mewn i system gwresogi ardal newydd sbon danlli'r safle. Fe esboniodd y rheolwr safle’n fanwl y manteision a’r anfanteision rhwng y wahanol fathau o systemau tanwydd c anfon fel pelenni a sglodion pren yn seiliedig ar brofiadau uniongyrchol.
Fe orffennodd y 5ed diwrnod gyda diwrnod cyfuno yng Nghoed Tyllwyd ymgymryd â gwaith echdynnu a phrosesu pren gan ddefnyddio winsh tractor a holltwr pren mecanyddol.
Dw i wedi dysgu cymaint wythnos 'ma!
Do'n i ddim wedi sylweddoli bod cymaint i brosesu coed tân!
Yn gyffredinol roedd y grŵp yn teimlo bod yr hyfforddiant wedi rhoi dilyniant go iawn iddynt ac wedi adeiladu ar eu gwybodaeth bresennol ac y maent yn edrych ymlaen at weithredu hyn i fentrau posibl neu fudd personol. Diolch mawr i Chris a’i gynorthwyydd Rhys am bum diwrnod gwych!