Mae'n amser sioe!

Written by Tir Coed / Dydd Mercher 25 Awst 2021

Roedd Tir Coed yn falch iawn o gael gwahoddiad i osod stondin yn Sioe Sir Benfro eleni, a gynhaliwyd yr wythnos ddiwethaf.

Er bod cyfyngiadau COVID wedi arwain at fersiwn tipyn llai o’r digwyddiad blynyddol – sef y sioe amaethyddol tri diwrnod mwyaf yng Nghyrmru yn draddodiadol, rhoddodd y digwyddiad gyfle i ffermwyr a bridwyr da byw ddod at ei gilydd i arddangos eu hanifeiliaid a chwrdd â hen ffrindiau a chydweithwyr.


Roedd trefnwyr y sioe wedi bod yn awyddus i Tir Coed osod stondin yn y Pentref Lles, ac roeddem ni’n fwy na pharod i fanteisio ar y cyfle.

Yn ogystal â hyrwyddo’r cyrsiau a’r gweithgareddau sydd ar gael trwy Tir Coed, cawsom hefyd gyfle i siarad gyda Lesley Griffiths, Gweinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Paul Davies, AS Preseli Sir Benfro a Sam Kurtz, AS Gorllewin Sir Gâr a De Sir Benfro ac is-gadeirydd Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Sir Benfro i drafod gweithgareddau Tir Coed a’n gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.

“Roeddem ni’n falch iawn o gael gwahoddiad i gymryd rhan yn Sioe Sir Benfro,” meddai rheolwr marchnata Tir Coed, Steve Adams.


“Er bod nifer y mynychwyr wedi’i gyfyngu o ganlyniad i gyfyngiadau Covid, roedd hi’n braf cael cyfle i fynd allan unwaith eto a rhannu neges Tir Coed.

“Roedd gan bawb ddiddordeb mawr yn y gwaith y mae Tir Coed yn ei wneud ynghyd â’n prosiectau ar gyfer y dyfodol, yn enwedig ein prosiect AnTir newydd.

“Hoffem ddiolch i drefnwyr y sioe am ein gwahodd i ymuno ac am gydnabod y rôl hanfodol y mae Tir Coed yn ei chwarae wrth gefnogi ein cymunedau gwledig.”


Ffurflen Ymholiad

Bydd y ffurflen ar-lein hon yn eich galluogi i fynegi diddordeb gyda Tir Coed fel y gallwn eich cysylltu ag un o'n cyrsiau hyfforddi awyr agored neu weithgareddau lles. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir i gysylltu â chi i drafod y cyrsiau hyfforddi a/neu'r gweithgareddau lles sydd ar gael i chi a chwblhau'r broses gofrestru.

Diogelu Data a Chaniatâd

Bydd yr wybodaeth a gesglir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n ddiogel ar system storio ar-lein Tir Coed yn unol â Chanllawiau Diogelu Data a'n Polisi Preifatrwydd.

Sylwch ein bod weithiau'n profi galw mawr am ein cyrsiau hyfforddi, felly yn anffodus, ni allwn sicrhau lle ar unwaith i chi ar gwrs hyfforddi.

Mae Tir Coed yn elusen gofrestredig (#1115229) a Chwmni Cyfyngedig (#03918116).
Tir Coed, Uned 6G Parc Gwyddoniaeth, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3AH.

Beth yw:

TANYSGRIFIO I'R CYLCHLYTHYR

Y newyddion diweddaraf o Tir Coed